Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Eglurhad: Cyllideb ddrafft a chanolfannau hamdden

Image of a person swimming

16 January 2024

Image of a person swimming
Mae honiadau fod canolfannau hamdden ym Mhowys i gael cwtogiad o £1.1m o gymorth oddi wrth y cyngor yn anghywir.

Ym mis Rhagfyr 2022, roedd Freedom Leisure yn adrodd am gynnydd sylweddol i gostau gwasanaethau, a rhagwelwyd y byddai hynny'n parhau am gyfnod o ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin.

Gwnaeth Cyngor Sir Powys gytuno i gefnogi Freedom Leisure gyda'r costau ychwanegol digynsail hyn i fewn i flwyddyn ariannol 2023/24 gydag ychwanegiad o £1.1m.

Fodd bynnag, gyda sefydlogi a gostyngiad i brisiau ynni a Freedom Leisure yn gosod eu contract pris ynni, gwnaeth Freedom Leisure gadarnhau nad oedd yr arian ychwanegol yn ofynnol. 

Gan nad oedd angen yr arian ychwanegol ar Freedom Leisure, cafodd yr arian ei gadw fel arbediad cyllideb.