Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut i gael offer

hand walking frame

Dyma 3 ffordd o ddod o hyd i'r offer cywir i chi:

Cael argymelliadau ar-lein 

Darganfod pa offer fyddai'n gwneud eich bywyd yn haws.

Os ydych yn cael problemau cerdded, neu'n meddwl bod angen cymorth cerdded arnoch chi gallwch chi neu'ch meddyg teulu/gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyfeirio ar gyfer asesiad symudedd gan eich Tîm Therapi Cymunedol BIA Powys lleol.

 

Archebwch o siop neu werthwr

Mae llawer o offer syml ar gael i brynu o'r siopau'r stryd fawr fel Argos, Boots, siopau DIY ac eraill.

Mae sefydliadau ar gyfer cyflyrau penodol yn aml yn rhoi cyngor ar offer a gallant hefyd ei werthu.

Cael asesiad gennym ni

Os yw eich anghenion yn fwy cymhleth, gallwn gael sgwrs a gofyn rhai cwestiynau am eich bywyd o ddydd i ddydd er mwyn darganfod pa offer byddai'n helpu.

Os yw'n eitem fach fel canllaw cydio, stôl clwydo neu beiriant codi cadair - neu rywbeth mwy - byddwn yn darganfod y peth gorau i chi.

Gelwir hyn yn asesiad.

Gellir benthyca offer a argymhellir yn dilyn asesiad am ddim.

Derbynnir atgyfeiriadau o ystod eang o ffynonellau, a'r canlynol yn debygol o fod y fwyaf arwyddocaol:- ·

  • Gofal Cymdeithasol· Gwasanaethau Gofal Sylfaenol·
  • Ward rithwir · Gwasanaethau ysbyty, ysbytai cymunedol ac ysbytai cyffredinol dosbarth
  • Darparwyr Annibynnol·
  • Trydydd sector · Teulu a ffrindiau · Hunangyfeirio

Os yw'n well gennych, gallwch ofyn am asesiad eich hun gan ddefnyddio'r botwm isod:

Gofyn am asesiad Gwneud atgyfeiriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau