Beth mae asesiad ar gyfer addasiadau neu offer yn ei olygu?
Bydd Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â chi i asesu eich anghenion ac yn cytuno ar gynllun gweithredu gyda chi.
Gall y Therapydd Galwedigaethol argymell mân addasiadau neu addasiadau mawr i'ch cartref. Yn dibynnu ar bwy sy'n berchen ar eich cartref (chi, y cyngor, Cymdeithas Tai, neu berchennog preifat), bydd yr argymhellion yn cael eu hanfon at y sefydliad neu'r asiant a all wneud y newidiadau.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu neu gyfrannu at gostau'r gwaith yn eich tŷ. Byddwn yn gwirio faint o arian yr ydych yn gymwys i'w gael yn seiliedig ar eich incwm ac unrhyw fudd-daliadau rydych yn derbyn. Rydym yn galw hyn yn brawf modd ariannol.
Os ydych chi'n cael problemau cerdded, efallai bydd eich meddyg teulu'n eich cyfeirio am asesiad symudedd, fel arfer mewn clinig cleifion allanol lleol.
Derbynnir atgyfeiriadau o ystod eang o ffynonellau, a'r canlynol yn debygol o fod yn fwyaf arwyddocaol:- ·
- Gofal Cymdeithasol· Gwasanaethau Gofal Sylfaenol·
- Ward rithwir · Gwasanaethau ysbyty, ysbytai cymunedol ac ysbytai cyffredinol dosbarth
- Darparwyr Annibynnol·
- Trydydd sector · Teulu a ffrindiau · Hunangyfeirio
Os yw'n well gennych, gallwch ofyn am asesiad eich hun gan ddefnyddio'r botwm isod:
Gofyn am asesiad Gwneud atgyfeiriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau