Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymeradwyo cynnydd cymedrol mewn rhenti tai cyngor

Image of council housing

17 Ionawr 2024

Image of council housing
Bydd cynnydd cymedrol mewn rhenti yn ategu adeiladu cartrefi newydd gan y cyngor, cynnal y stoc bresennol o dai, gan sicrhau fod pob cartref sy'n eiddo i'r cyngor yn wyrddach, yn ôl y cyngor sir.

Ddoe (dydd Mawrth 16 Ionawr) mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cytuno i gynnydd o 6.7% mewn rhenti tai cyngor, sy'n cyfateb i £6.80 ar gyfartaledd bob wythnos.

Cefnogwyd y cynnydd mewn rhent gan Banel Craffu Tenantiaid y cyngor, a bu hefyd yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer newidiadau mewn rhent ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

Mae angen y cynnydd er mwyn ariannu'r gwasanaeth yn ogystal â chaniatáu i'r cyngor barhau â'i raglen o gynlluniau buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw ar gyfer y 5,500 o gartrefi sy'n eiddo i'r cyngor, i gefnogi rhaglen twf o adeiladu cartrefi cyngor newydd, gan gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi'r cyngor er mwyn helpu lleihau tlodi tanwydd, helpu torri allyriadau carbon, a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Daw'r cynnydd mewn rhent i rym o Ebrill 2024.

Dywed y Cyng. James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Bydd ein rhaglen gynyddol o adeiladu cartrefi newydd i'r cyngor a'n cynlluniau buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw ar gyfer ein cartrefi presennol, yn ein helpu i feithrin Powys gryfach, decach a gwyrddach.

"Bydd y cynnydd cymedrol hwn yn y rhent yn sicrhau y gallwn fuddsoddi yn ein stoc o dai, cynyddu nifer y tai cyngor yn ein cymunedau trwy adeiladu cartrefi uchel eu safon, a sicrhau bod pob un o'n cartrefi'n wyrddach.

"Mae'r cyngor hefyd am gydnabod gwaith y Panel Craffu Tenantiaid; ymgynghorwyd â nhw ar y cynigion, a gwnaethant gyfraniad gwerthfawr i'r broses o wneud y penderfyniad.

"Mae rhenti Cyngor Powys ymhlith yr isaf o unrhyw landlord sy'n gweithio yn y sir, ond mae'n cynnig y diogelwch gorau i denantiaid."

Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo ffioedd newydd ar gyfer gwasanaethau megis cynnal a chadw tiroedd, glanhau ardaloedd cyffredin, gwresogi, llinellau dillad, erialau teledu a gwaith diogelwch tân.

Hefyd, bydd cynnydd o £0.92 yr wythnos yn y rhent ar gyfer garejys y cyngor.