Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut y gymryd rhan

Gallwch lwytho copi o'r Gorchymyn drafft, y cynllun perthnasol a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r safle hwn.

Gall UNRHYW UNIGOLYN wrthwynebu gwneud y Gorchymyn hwn drwy anfon rhybudd at y sawl y mae ei enw wedi lofnodi isod dim hwyrach na 1 Mawrth 2024, gan nodi sail y gwrthwynebiad.

Sylwch: Os ydych ym dymuno gwrthwynebu neu wneud neu gefnogi sylwadau, bydd tîm y proisect yn ystyried eich gohebiaeth ac mae'n bosibl y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r brosed so ymgynghori ag eraill, mae'n bosib y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys y wybodaeth y gwnaethoch chi ei rhoi i ni, a'ch data personol. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion personol, fodd bynnag, oni bai fod angen gwneud hynny er mwyn ein galluogi i drin y materion rydych chi wedi dwyn ein sylw atyn nhw.

Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Traffig
Neuadd y Sir
Llandrindod 
Powys
LD1 5LG

Gellir cyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau eraill y mae'n rhaid iddynt gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post llawn, a gellir anfon rhesymau ar sail tystiolaeth dros unrhyw wrthwynebiadau hefyd drwy e-bost at traffic@powys.gov.uk heb fod yn hwyrach na 1 Mawrth 2024. Defnyddiwch y geiriad "A489 a C2012 Ceri - Sylwadau ar Adolygiad Terfyn Cyflymder" yn llinell bwnc ar gyfer eich e-bost, fel bod modd adnabod eich e-bost yn rhwydd fel sylwadau am y cynnig Gorchymyn Traffig penodol hwn.