Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Digwyddiad i ddod ynghylch atebion busnes Cynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru: Lleihau allyriadau a chostau

Image of green energy measures

19 Ionawr 2024

Image of green energy measures
Mae digwyddiad ar gyfer busnesau Canolbarth Cymru ‒ i edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni ‒ yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim gan Dyfu Canolbarth Cymru ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 2pm ar ddydd Gwener, 9 Chwefror 2024 yn Fferm Bargoed ger Aberaeron. Darperir cinio ysgafn. Mae cyrff Dosbarthwr Trydan y Grid Cenedlaethol(NGED), Trosglwyddwr Trydan y Grid Cenedlaethol  (NGET), Rhwydwaith Ynni Scottish Power (SPEN) a Wales and West Utilities (WWU) yn rhoi nawdd tuag at gostau'r digwyddiad.

Y nod yw rhoi cyfle i fusnesau Canolbarth Cymru ddod ynghyd i siarad am yr hyn sydd ei angen arnynt yn y dyfodol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni.

Cynghorydd Sir Powys Jackie Charlton, Aelod o'r Cabinet dros Bowys Gwyrddach: "Y llynedd fe wnaeth busnesau ar draws y rhanbarth gymryd rhan mewn arolwg i weld pa heriau oedden nhw'n eu hwynebu o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r wybodaeth o'r arolwg yna wedi'i defnyddio wrth drefnu'r digwyddiad yma, er mwyn parhau â'r drafodaeth bwysig hon.

"Os ydych yn un o fusnesau Ceredigion a Phowys sy'n ystyried eich ffordd o drawsnewid i sero net, dewch draw i'r digwyddiad ynghylch atebion busnes Cynaliadwy. Cewch gyfle i rwydweithio a thrafod ffyrdd o helpu'ch busnes i ddatgarboneiddio."

Bydd amryw o siaradwyr yn cymryd rhan gan gynnwys Diwydiant Sero Net Cymru, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a'r rhwydweithiau ynni.

Bydd Geraint Thomas yn rhannu siwrne ddatgarboneiddio Fferm Bargoed ac yn cynnig taith o amgylch y safle i weld paneli solar ffotofoltaig y fferm, storfa'r batri, y pwyntiau gwefru cerbydau trydan, generaduron biodanwydd a'r peiriant beilo ar gyfer ailgylchu ar y safle.

Mae angen i fusnesau gofrestru i fynd i'r digwyddiad, a hynny drwy ffurflen Eventbrite erbyn 2 Chwefror 2024. Dyma'r ddolen i Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/sustainable-business-solutions-in-mid-wales-tickets-789266386007