Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys i graffu ar braesept yr heddlu

Image of Dyfed Powys Police and Crime Panel logo

19 Ionawr 2024

Image of Dyfed Powys Police and Crime Panel logo
Y praesept plismona ar gyfer trigolion Dyfed Powys fydd pwnccyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys ddydd Gwener, 26 Ionawr 2024. Bydd aelodau'r panel yn herio ac yn ystyried y praesept a fwriadwyd gan Dafydd Llewellyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Bydd plismona yn Nyfed Powys yn cael ei ariannu gan y praesept hwn, sy'n cael ei osod gan y Comisiynydd. Bydd y cynnig praesept presennol yn codi praesept eiddo band D ar gyfartaledd o £1.62 y mis neu £19.38 y flwyddyn i £332.03, cynnydd o 6.2. Bydd y cynnydd hwn yn codi cyfanswm praesept o £79.364m a bydd yn darparu cyfanswm cyllid o £143.902m, sy'n cynrychioli cynnydd o £8.150m neu 6.0% o'r cyllid diwygiedig ar gyfer 2023/24. 

Yn ystod y cyfarfod, bydd y Comisiynydd yn hysbysu'r Panel ar sut y bydd y gyllideb yn diwallu anghenion plismona. Bydd hefyd yn hysbysu'r panel o amcanion newydd er mwyn i'r Prif Gwnstabl ganolbwyntio ar well perfformiad a chanlyniadau.

Dywedodd Cadeirydd y Panel, yr Athro Ian Roffe: "Mae craffu a herio'r angen am blismona yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw un eisiau gweld cynnydd yn eu biliau, felly rydym am glywed pam mae angen cynnydd.

"Mae craffu ar anghenion a'r rhesymau dros gyllid yn agwedd allweddol ar waith i'r Panel. Felly, mae grŵp o aelodau profiadol dan arweiniad y Cynghorydd Keith Evans wedi gweithio i ystyried yn fanwl ofyniad cyllideb yr heddlu. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan holl aelodau'r Panel, sy'n cynrychioli hyd a lled Dyfed Powys, yn y cyfarfod hwn ar ôl clywed cynlluniau'r Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn i ddod."

Bydd cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn Neuadd Sir Benfro am 10.30am ddydd Gwener, 26 Ionawr 2024 yn cael ei ffrydio'n fyw. Mae'r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor sir yn ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddynt y pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar braesept arfaethedig yr heddlu. Caiff plismona lleol ei ariannu gan grant o'r Swyddfa Gartref yn ogystal â chyfraniadau gan y cyhoedd drwy'r Dreth Gyngor, sy'n cael ei adnabod fel praesept yr heddlu.

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.