Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dyfarnu £10.9m o grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i 66 prosiect ym Mhowys

A woman making a thumbs-up gesture

22 Ionawr 2024

A woman making a thumbs-up gesture
Dyfarnwyd grantiau o bron i £11 miliwn o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (Ffyniant Bro) a fydd yn fanteisiol i Bowys dros yr 12 mis diwethaf.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys (CFfG) wedi bod yn adolygu ac yn cymeradwyo amrywiaeth o bidiau ers Chwefror 2023, yn dilyn pedwar galwad agored am geisiadau.

Y mae'n gyfrifol am benderfynu sut y dylai'r ychydig dros £26 miliwn o arian CFfG gael ei ddyrannu i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth DU fel rhan o'i rhaglen Ffyniant Bro.

Amcanion Ffyniant Bro yw:

  • Hybu cynhyrchedd, cyflog, swyddi a safonau byw
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus
  • Adfer ymwybyddiaeth o gymuned, balchder lleol ac ymberthyn
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol
  • Cynyddu lefelau rhifedd swyddogaethol poblogaeth oedolion

Yn flaenorol, roedd y bwrdd wedi cymeradwyo 32 prosiect, sydd wedi gwario £7.76 miliwn rhyngddynt.

Bydd rhagor o gyhoeddiadau o'r galwadau agored hefyd pan fydd bidiau ariannu ar gyfer y rhain wedi cael eu harwyddo.

Rhaid cyflenwi'r holl brosiectau erbyn diwedd eleni, cyn bod adroddiad terfynol y rhaglen yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth DU erbyn diwedd Mawrth 2025.

Caiff Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG ei gefnogi gan Dîm Datblygu ac Adfywio Economaidd Cyngor Sir Powys.

"Mae'r bartneriaeth wedi bod yn edrych ar y ffordd orau i ni gefnogi amcanion Ffyniant Bro drwy ddyfarnu grantiau o dan bedair prif thema sef Cymunedau a Lle, Cefnogi Busnes Lleol, Pobl a Sgiliau a Lluosi (gwella sgiliau rhifedd)," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys. "Rydym ni hefyd wedi bod yn canolbwyntio'n fanwl ar echdynnu'r gwerth mwyaf posibl o'r arian hwn.

"Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gwneud y fath gynnydd ardderchog dros y 12 mis diwethaf wrth gefnogi 66 prosiect a fydd hefyd yn ein helpu ni i gyflawni nodau'r cyngor wrth greu Powys gryfach, tecach a gwyrddach."

Am ragor o wybodaeth am CFfG DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostio ukspf@powys.gov.uk

Mae Partneriaeth Lleol GFfG Powys yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Mudiad Sefydliadau Gwirfoddol, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.