Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i 11 prosiect i wella cymunedau ac adeiladau Powys

Building plans and tools

23 Ionawr 2024

Building plans and tools
Mae 11 prosiect wedi derbyn grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (Ffyniant Bro) sy'n werth cyfanswm o £1.24 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf i helpu i adeiladu "cymdogaethau cydnerth, iach a diogel".

Cafodd y dyfarniadau eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys (CFfG), o dan ei thema Cymunedau a Lle.

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am benderfynu sut y caiff yr ychydig dros £26 miliwn o arian CFfG ei wario, sy'n cael ei ddyrannu i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth DU fel rhan o'i rhaglen Ffyniant Bro.

Mae Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys yn cael ei gefnogi gan Dîm Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Powys.

"Ein nodau o dan thema Cymunedau a Lle yw cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymwybyddiaeth o falchder lleol ac ymberthyn, ac adeiladu cymdogaethau cydnerth, iach a diogel," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Powys fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys.

"Yn ddelfrydol byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy'n gwella clymau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad at amwynderau, ac mewn lleoedd o ansawdd y mae pobl am fyw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt."

Ymhlith y prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus o dan thema Cymunedau a Lle mae'r canlynol:

  • Neuadd y Dref y Trallwng, £50,000, i Gyngor Tref y Trallwng, am astudiaeth dichonolrwydd a fydd yn edrych ar y ffordd orau o'i newid i fod yn gyfleuster modern a chynaliadwy.
  • Dichonoldeb Twristiaeth Diwylliannol Powys, £30,000, i Dîm Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Powys, i gynllunio prosiect a fydd yn adrodd straeon digwyddiadau arwyddocaol yn hanes y sir.
  • Gwaith Glannau Gwy: Wyeside Works, £14,091, i Ganolfan Celfyddydau Wyeside, am astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar gynlluniau i wella'r sinema, theatr a chyfleusterau arddangos yn y lleoliad yn Llanfair-ym-Muallt.
  • Llynnoedd Cwm Elan - Canolfan Ymwelwyr, £50,000 i Ddŵr Cymru i lunio cynlluniau manwl i wella'r ganolfan ymwelwyr.
  • Effeithlonrwydd Ynni Adeiladau Cymunedol £83,378, i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar gyfer ail gam y prosiect o gyflenwi biliau ynni gostyngedig a llai o allyriadau  CO2 i adeiladau cymunedol.
  • Ail-adeiladu Seiliau Cymunedol, £78,315, i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys - PAVO, i ddarparu cymorth i'r rheini sy'n rheoli adeiladau cymunedol, fel eu bod yn gallu eu gwneud nhw'n hunan-gynaliadwy.
  • Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys, £553,172, i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys to Powys - PAVO, i redeg cynllun grantiau bach a fydd yn cefnogi elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol. 
  • Cynllun Datblygu Pafiliwn Canolbarth Cymru, £21,198, i ddigwyddiadau Pafiliwn y Grand, i edrych ar opsiynau o ddatblygu'r lleoliad adloniant ymhellach.
  • Canolfan Lles Machynlleth - Iechyd Awyr Agored, £48,673, i Goed Lleol, am astudiaeth ddichonoldeb i ddatblygu rhaglen iechyd awyr agored i staff, cleifion mewnol, cleifion allanol a'r gymuned ehangach.
  • Caru Powys, £115,929, i Cadw'ch Gymru'n Daclus, ar gyfer cynlluniau a fydd o fudd i bobl a bywyd gwyllt, drwy atal creu sbwriel a chefnogi glanhau cymunedau.
  • Cymorth i Dyfu Bwyd yn y Gymuned Powys, £204,910, i Ffermydd Cymdeithasol a Thîm Gerddi Cymru, i helpu i ddatblygu safleoedd tyfu ffrwythau a llysiau a mentrau cymdeithasol ledled Powys.

Am ragor o wybodaeth am CFfG DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostio ukspf@powys.gov.uk

Mae Partneriaeth Lleol GFfG Powys yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Mudiad Sefydliadau Gwirfoddol, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.