Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Galw ar Artistiaid i Arddangosfa Aberhonddu

‘Ffrwdgrech Falls’, Sam Garratt. Etching.

23 Ionawr 2024

‘Ffrwdgrech Falls’, Sam Garratt. Etching.
 Mae oriel yn ne Powys yn galw ar artistiaid i arddangos eu gwaith, meddai'r cyngor sir.

Wrth baratoi ar gyfer arddangosfa dros dro yn ddiweddarach eleni, mae Amgueddfa, Oriel Gelf a Llyfrgell Y Gaer yn Aberhonddu yn chwilio am artistiaid i gyflwyno darnau wedi'u hysbrydoli gan amgylchedd naturiol a bywyd gwyllt Sir Frycheiniog, i'w harddangos ochr yn ochr â gweithiau o'i chasgliad ei hun.

Cyn cyflwyno, sicrhewch fod y gwaith yn cyd-fynd â'r canllawiau canlynol:

  • Gall gwaith celf fod mewn unrhyw gyfrwng.
  • Ni ddylai gwaith crog fod yn fwy na 44 x 54cm a rhaid eu fframio a'u gorchuddio â gwydr. 
  • Ni ddylai gwaith 3D fod yn fwy na 40cm3.
  • Dim ond un cyflwyniad i bob artist fydd yn cael ei dderbyn i'w ystyried.

Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'n wych gweld digwyddiadau fel hyn yn cael eu cynnal yn y sir, ac rwy'n annog unrhyw artist, neu ddarpar-artist, i gyflwyno eu gwaith i'r arddangosfa hon.

"Bydd yr arddangosfa hon yn rhoi cyfle i bob artist ddangos eu doniau, ac arddangos eu gwaith yn y lleoliad poblogaidd hwn.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld yr amrywiaeth o gelf sydd i'w gweld pan fydd yr arddangosfa hon yn agor yn ddiweddarach eleni, ond mae hefyd yn gyfle gwych i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac yn hyrwyddo'r dalent enfawr sydd gennym yma ym Mhowys."

Bydd yr holl weithiau celf a gyflwynir yn mynd trwy broses ddethol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr arddangosfa, felly nid oes sicrwydd y bydd pob darn yn cael ei ddewis.

Bydd gwaith celf a ddewisir yn cael ei arddangos o ganol mis Mawrth tan ddechrau mis Medi 2024, felly mae'n rhaid i artistiaid fod yn hapus i'w gwaith fod ar fenthyg ac allan yn cael ei arddangos am y cyfnod. Bydd y cyflwyniadau'n cau ar 6ed Chwefror 2024 a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ar 8fed Chwefror 2024.

Yn yr arddangosfa, bydd pob darn yn cael ei labelu'n glir gyda'r artist, y teitl a'r handlen cyfryngau cymdeithasol, lle bo hynny'n berthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gyflwyno gwaith, gyrrwch ebost at ygaer@powys.gov.uk wedi'i farcio at sylw'r Curadur Cynorthwyol.

 

Llun: 'Rhaeadr Ffrwdgrech', Sam Garratt, Ysgythriad