Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i 32 prosiect er mwyn helpu busnesau Powys i ehangu

A group of business people shaking hands

24 Ionawr 2024

A group of business people shaking hands
Mae 32 o brosiectau wedi derbyn grantiau y Gronfa Ffyniant Gyffredin (Ffyniant Bro) sy'n werth cyfanswm o £5.24 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i helpu i hybu buddsoddiad mewn busnes a chreu swyddi.

Cafodd y dyfarniadau eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin Powys, o dan ei thema Cefnogi Busnesau Lleol.

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am benderfynu sut y dylid gwario yr ychydig dros £26 miliwn o arian CFfG a ddyrannwyd i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth DU fel rhan o'i rhaglen Ffyniant Bro. 

Caiff Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfB Powys ei gefnogi gan Dîm Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Powys.

"Ein nodau o dan thema Cefnogi Busnesau Lleol yw creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, hyrwyddo rhwydweithio a chydweithio a chynyddu buddsoddiad yn y sector cyhoeddus mewn gweithgareddau sy'n gwella twf," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Powys fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys.

"Yn ddelfrydol, byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy fuddsoddiad sy'n adeiladu ar ddiwydiannau a sefydliadau presennol, drwy ymyraethau sy'n dyfod â busnesau a phartneriaid ynghyd ac ar draws sectorau, a thrwy gymorth sydd wedi ei dargedu ar gyfer busnesau bach a chanolig."

Ymhlith y prosiectau a fu'n llwyddiannus o dan thema Cefnogi Busnesau Lleol mae:

  • Gweledigaeth a Chynllun Meistr Strategol ar gyfer Maes Sioe Frenhinol Cymru, £24,999, i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i greu cynllun i'r safle a fydd yn edrych ar gyfleoedd newydd i bartneriaethau a buddsoddiad.
  • Gwasg Treftadaeth Gregynog, £45,000, ar gyfer Gwasg Gregynog, er mwyn gwneud astudiaeth ddichonoldeb sy'n edrych ar greu atyniad newydd i ymwelwyr yn seiliedig ar bwysigrwydd hanesyddol gwasg argraffu Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd.
  • Cynllun Meistr a Strategaethau Cynefin, £50,000, i Ganolfan y Dechnoleg Amgen, er mwyn cyflawni adolygiad o'i phrosiect: Cynefin, sy'n anelu at gefnogi'r pontio tuag at economi carbon isel.
  • Llinell Bywyd yn y Cartref, £21,975, ar gyfer Age Cymru Powys, er mwyn gwneud astudiaeth ddichonoldeb i greu a thalu am wasanaeth Llinell Bywyd yn y Cartref ym Mhowys sy'n cefnogi pobl hŷn
  • Prosiect Ynni Carbon Isel Talgarth, £50,000, i Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth â GP Biotec, ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i weld a yw ynni dros ben oddi wrth safle treulio anaerobig yn Nhalgarth yn gallu cael ei ddefnyddio i bweru cerbydau'r cyngor ac adeiladau cyhoeddus.
  • Trefi Smart, £136,802, ar gyfer Tîm Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Powys i ddarparu systemau rheoli a hyfforddi i drefi ag isadeiledd smart fel eu bod nhw'n gallu monitro ôl-traed a defnyddio'r wybodaeth hon i werthuso llwyddiant digwyddiadau ac ymgyrchoedd hyrwyddo
  • Llwybrau at Ffyniant, £131,187, i Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth ag: Y Cerddwyr, i ddatblygu a hyrwyddo teithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn a fydd yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy. 
  • Datblygu Rhwydwaith Digwyddiadau Powys, £100,000, i Dîm Adfywio a Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Powys, er mwyn helpu i esblygu'r sector digwyddiadau yn y sir, drwy rwydweithio, hyfforddi ac ymgyrchoedd marchnata ar y cyd.
  • Adfywio Cynllun Dyfarniadau a Chymhelliant Canolbarth Cymru, £320,380, i Dwristiaeth Canolbarth Cymru, ar gyfer prosiect a fydd yn helpu busnesau annibynnol i gystadlu â chadwyni mwy o faint drwy wella teyrngarwch cwsmeriaid.
  • Cefnogi Busnesau Twristiaeth, £98,300, ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i greu gwefan a rhaglen weithgaredd newydd i gefnogi'r economi ymwelwyr, gan hybu'r ardal fel cyrchfan cynaliadwy. 
  • CEMET Prifysgol De Cymru, £100,500, i CEMET ym Mhrifysgol De Cymru, ar gyfer cefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol Powys sydd am ddatblygu nwyddau neu wasanaethau newydd.
  • Ailbrisio 2 (Strategaeth Arloesi), £337,246, ar gyfer Strategaeth Arloesi, i ddarparu cyngor technegol a busnes i fentrau sydd am dyfu, yn enwedig yn y sectorau cynhyrchu amaethyddiaeth a bwyd a diod sy'n uchel eu gwerth.
  • Cymorth Arbenigol i Fentrau Cymdeithasol, £174,094, ar gyfer Cwmpas, i ddarparu cyngor i fentrau cymdeithasol ym mhob cam o ddatblygiad ledled Powys.
  • Rhaglen Global Reach Out, £168,831, ar gyfer Antur Cymru, i helpu busnesau micro, bach a chanolig eu maint i ddechrau allforio neu ehangu eu gwerthiant presennol i wledydd eraill. 
  • Cymorth Ychwanegol i Effeithlonrwydd Ynni Busnesau Canolbarth Cymru, £403,392, i Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, i helpu busnesau bach a chanolig eu maint leihau eu biliau ynni a'u hallyriadau CO2.
  • Ôl-troed Carbon Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys, £199,931, i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, am ymchwil a dadansoddi, astudiaethau dichonolrwydd a gweithredoedd calonogol a fydd yn torri allyriadau carbon.
  • Gwerthusiad Opsiynau Cyffredin Llangors, £20,000, ar gyfer Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys, i edrych ar welliannau a fydd yn ei wneud yn lle mwy deniadol i ymweld ag ef a'i ddefnyddio ar gyfer hamdden. 
  • Datblygiad Wyeside Workshop, £39,754, i Ganolfan Celfyddydau Wyeside, ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i mewn i ailwampio gweithdai, swyddfeydd a storfa gerllaw i greu theatr ymarfer, gwagle dawns a stiwdio recordio yn Llanfair-ym-Muallt.
  • Cysylltedd Digidol Tyfu Canolbarth Cymru, £50,000, ar gyfer Cynghorau Sir Powys a Ceredigion mewn partneriaeth, i gyflawni dadansoddiad cysylltedd a mapio a fydd yn cefnogi gwelliannau yn y dyfodol.
  • Catalydd Atebion Canolbarth Cymru, £238,741, ar gyfer Aberinnovation, i ymchwilio a datblygu cymorth i fusnesau bach a chanolig eu maint yn y sectorau iechyd, amaethyddiaeth, amgylcheddol a bwyd a diod.
  • Inswleiddio Powys, £107,970 ar gyfer Grŵp Colegau NPTC, i hyfforddi rhagor o osodwyr inswleiddio a hyrwyddo buddion eu gwaith i berchnogion tai.
  • Grantiau Tyfu Busnesau Powys, £398,128, ar gyfer Tîm Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Powys, i redeg cynllun i helpu busnesau ym Mhowys i ariannu gwaith a fydd un ai'n creu swyddi neu'n eu diogelu.
  • Academi Technoleg Ffasiwn y Drenewydd, £200,000, ar gyfer Grŵp Colegau NPTC, er mwyn creu cyfleuster newydd yng nghanol y Drenewydd, mewn partneriaeth fasnachol â Fashion Enter.
  • Safle Lleihau Carbon Aml-allbwn ar gyfer Astudiaeth Canolbarth Cymru, £49,954, i Asiantaeth Ynni Hafren Gwy i ystyried sefydlu safle prosesu ym Mhowys a fyddai'n troi pren gwerth isel a dail i mewn i fio-olosg a bio-lo a darparu gwarged o wres.
  • Tyfu'r Economi Bwyd Lleol £150,274, i Ecodyfi, er mwyn helpu i ehangu cynhyrchiant bwyd, drwy fentora a chefnogaeth, yn ardal Bio-sffêr Dyfi.
  • Ffermydd y Dyfodol, £243,176, ar gyfer Gerddi a Ffermydd y Dyfodol. Bydd hyn ar gyfer peilot sy'n cynnwys chwech o ffermydd, a gaiff eu rhannu'n blotiau llai a'u defnyddio i dyfu bwyd i farchnadoedd lleol a rhanbarthol.
  • Hwbiau Creadigol Ledled Powys, £221,750, i Wasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Powys, i ddatblygu gwefan Stori Powys fel lle i hyrwyddo gweithgareddau celf a diwylliant, digwyddiadau a gwasanaethau.
  • Catalydd Twf Mentrau Canolbarth Cymru, £345,320, Catalydd Twf Mentrau Canolbarth Cymru ar gyfer rhaglen sefydledig i gefnogi entrepreneuriaid a thyfu busnes.
  • Ap Symudol Trefi Digidol Powys, £243,544, ar gyfer Programus, i greu ap a fydd yn helpu busnesau canol trefi gydag e-fasnach a marchnata digidol.
  • Focus Enterprise, £249,731, i  Busnes Mewn Ffocws, ar gyfer help i fusnesau sy'n cael ei dargedu ar gyfer y rheini nad ydynt yn cael mynediad at wasanaethau cefnogi prif ffrwd.
  • Menter y Mynydd, £96,327, i Menter Mynyddoedd, ar gyfer cefnogi twf busnes yng nghymunedau Powys sy'n seiliedig ar Fynyddoedd y Cambria. 
  • Gwagle Masnachu, £232,320, i Antur Cymru, ar gyfer hyfforddiant busnes a darparu siop dros dro ar stryd fawr y Drenewydd i entrepreneuriaid ei defnyddio i brofi potensial gwerthiant.

Am ragor o wybodaeth am CFfG DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostio ukspf@powys.gov.uk

Mae Partneriaeth Lleol GFfG Powys yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Mudiad Sefydliadau Gwirfoddol, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.