Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i 15 o brosiectau i hybu sgiliau a rhagolygon pobl Powys

A group of students chatting

25 Ionawr 2024

A group of students chatting
Mae 15 o brosiectau wedi derbyn grantiau y Gronfa Ffyniant Gyffredin (Ffyniant Bro) sy'n werth cyfanswm o £2.88 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i helpu pobl i ddod o hyd i waith neu i ddiogelu swyddi gwell.

Cafodd y dyfarniadau eu gwneud gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys (CFfG), o dan ei thema Pobl a Sgiliau. 

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am benderfynu sut y dylai yr ychydig dros £26 miliwn o arian CFfG ei wario, sy'n cael ei ddyrannu i Bowys ar gyfer 2022-25, gan Lywodraeth DU fel rhan o'i rhaglen Ffyniant Bro.

Mae Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys yn cael ei gefnogi gan Dîm Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Powys.

"Ein nodau o dan thema Pobl a Sgiliau yw hyrwyddo sgiliau craidd a chefnogi oedolion i wneud cynnydd i mewn i weithio, gostwng lefelau o anweithgarwch economaidd, cefnogi pobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i oresgyn rhwystrau at waith a chefnogi ardaloedd lleol i ariannu bylchau mewn darpariaeth sgiliau lleol i gefnogi pobl i wneud cynnydd i mewn i waith ac ychwanegu at ddarpariaeth sgiliau oedolion lleol," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor ar gyfer Powys fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Lleol CFfG Powys.

"Yn ddelfrydol byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy dargedu oedolion heb unrhyw neu â lefel isel o gymwysterau a sgiliau mewn mathemateg, drwy fuddsoddi mewn cymorth bywyd dwys pwrpasol, drwy ddarparu cymorth cydlynol wedi ei deilwra'n lleol, gan gynnwys mynediad at sgiliau sylfaenol a thrwy gyflenwi darpariaeth drwy amrywiaeth ehangach o lwybrau neu alluogi darpariaeth fwy dwys neu arloesol."

Ymhlith y prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus o dan thema Pobl a Sgiliau mae:

  • Cymorth Ieuenctid Ymyrraeth Gynnar, £575,000, i Wasanaeth Addysg Cyngor Sir Powys, i asesu a helpu pobl ifanc sy'n wynebu problemau ac nad ydynt yn cael mynediad at gymorth yn yr ysgol.
  • Llwybrau Gwirfoddoli Digidol Powys, £91,325, i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys PAVO, er mwyn gwella sgiliau digidol ar draws y sector gwirfoddol.
  • Datblygu Rheolaeth Tir Cynaliadwy £142,702, i Lantra Cymru, er mwyn creu chwech o fodiwlau hyfforddi achrededig ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir eraill i gael mynediad atynt.
  • Sgiliau ar gyfer Cynaliadwyedd, £104,702, i PAVO, i gyflogi ymgynghorwyr a fydd yn cefnogi byrddau ymddiriedolwyr ac eraill yn y sector cyhoeddus.
  • Dod ag Arbenigedd Therachwarae i Ofal Plant, £87,024, ar gyfer Lle'r Teulu /The Family Place, er mwyn hyfforddi mewn ymyraethau therapiwtig i gryfhau cydberthnasau, gan gynnwys tuag at gymhwyster Lefel 3 Therapi Sylfaenol.
  • Cynyddu Mynediad at Waith drwy Beam and Rekindle, £98,026, ar gyfer Beam Up, i ddarparu hyfforddiant i 150 o bobl ifanc 18-25 oed sydd un ai'n chwilio am waith neu mewn swyddi cyflog isel.
  • Llwybrau i Waith, £261,753, i Gyngor Sir Powys, i sefydlu rhaglen hyfforddi wedi ei thargedu at alwedigaethau cyngor sy'n wynebu prinder sgiliau ac i ddarparu cyfleoedd a fydd yn datblygu sgiliau.
  • Datblygu Sgiliau Busnes Sero Net £103,465, i Grŵp Colegau NPTC, ar gyfer ymgynghorydd penodol a fydd yn darparu gwybodaeth i gyflogwyr am gyfleoedd hyfforddi a fydd yn eu helpu i dorri allyriadau carbon.
  • Academi Technoleg Ffasiwn y Drenewydd, £526,603, i Grŵp Colegau NPTC i ariannu'r defnydd o dechnoleg a fydd yn galluogi dylunwyr i weithio gyda efelychiad 3D amser go iawn a chyfleuster llawn offer ar gyfer cynhyrchu dillad.
  • Tyfu Capasiti Sgiliau Gwyrdd ym Mhowys, £143,895, i Ganolfan y Dechnoleg Amgen, i hyfforddi o leiaf 400 o bobl mewn adeiladu cynaliadwy, retroffit, rheoli coetiroedd, ynni adnewyddadwy a syniadau datblygu.
  • AnTir Powys, £161,412, ar gyfer Tir Coed, i ddarparu coetir, sgiliau treftadaeth a thyfu bwyd yn seiliedig ar natur, a sesiynau blasu, i bobl di-waith, wedi eu tan gyflogi, wedi eu hynysu a difreintiedig.
  • Prosiect Peilog AgriStart, £155,000, i Lantra Cymru, ar gyfer cynllun sy'n darparu cyrsiau achrededig yn y sector amaethyddol a garddwriaethol a fydd yn paratoi cyfranogwyr ar gyfer cyflogaeth.
  • Arweinwyr Dyfodol Gwyrdd,  £62,332, ar gyfer Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed, i gynnwys interniaeth a delir, lleoliadau gwaith hir dymor a grwpiau ieuenctid a fydd yn gwella sgiliau a natur gwybodaeth plant a phobl ifanc 10-25 oed.
  • Rhwydwaith Cymorth Dysgu Technoleg Ddigidol, £133,741, ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ar gyfer cyfres o sesiynau a gweithdai a fydd yn hybu sgiliau digidol ym Mhowys.
  • Building Potential in Minds, £242,216, ar gyfer Mind Canolbarth a Gogledd Powys, i ddarparu cymorth iechyd meddwl un i un a hyfforddiant i breswylwyr 11 oed a hŷn.

Am ragor o wybodaeth am CFfG DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostio ukspf@powys.gov.uk

Mae Partneriaeth Lleol GFfG Powys yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Mudiad Sefydliadau Gwirfoddol, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.