Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwneud Sblash: Gwersi Nofio Cyfrwng Cymraeg ar fin dechrau ledled Powys

Maldwyn and Flash Leisure Centres

29 Ionawr 2024

Maldwyn and Flash Leisure Centres
Mae Freedom Leisure, un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol nid er elw blaenllaw'r DU sy'n rheoli 13 o ganolfannau hamdden ledled Powys yn falch o ychwanegu Gwersi Nofio Cyfrwng Cymraeg at eu hamserlen ledled y Sir.

Mae rhaglen Dysgu Nofio Freedom Leisure yn addysgu'r sgil achub bywyd hon i dros 12,000 o fyfyrwyr bob wythnos ledled Cymru, ac mae'n falch iawn o ehangu'r cynnig ymhellach, gan apelio at holl siaradwyr Cymraeg y sir.

Yn ôl y Cynghorydd David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus "Mae Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure yn rhannu ymrwymiad i gyfoethogi darpariaeth y Gymraeg yn ein cyfleusterau hamdden. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen, ac rwyf yn ei groesawu'n fawr. Dylai'r Gymraeg fod wrth galon popeth a wnawn, ac mae annog defnyddio'r iaith yn y gymuned ehangach yn gam hollbwysig i sicrhau fod yr iaith yn ffynnu. Mae darparu gwersi nofio yn Gymraeg yn gam enfawr ymlaen".

Dywedodd y Rheolwr Cyffredinol, Denise Hazelwood, "Allwn ni ddim aros i ddechrau darparu ein Gwersi Nofio Cyfrwng Cymraeg ledled Powys. Mae perthynas ardderchog gennym ag ysgolion cyfrwng Cymraeg yr ardal. Maen nhw'n defnyddio'n pyllau ac mae hyn yn ehangu ar ein darpariaeth ar ôl ysgol ymhellach. Mae ein cydweithwyr yn barod i fynd ac rydym ni'n siŵr y bydd y lleoedd yn cael eu harchebu'n gyflym, felly peidiwch â cholli allan."

Mae Canolfan Hamdden y Fflash yn y Trallwng a Chanolfan Hamdden Maldwyn yn y Drenewydd yn lansio'r gwersi newydd sbon hyn ym mis Chwefror ond gallwch archebu lle nawr. I archebu lle galwch heibio'r ganolfan, ffoniwch neu ewch i'r wefan:

Canolfan Hamdden y Fflash
01938 555952
https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/centres/canolfan-hamdden-y-flash/newyddion/gwersi-nofio-cymraeg/

Canolfan Hamdden Maldwyn
01686 628771
https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/centres/canolfan-hamdden-maldwyn/newyddion/gwersi-nofio-cymraeg/