Porth Cwsmer Ailgylchu Masnachol Powys
Erbyn hyn gallwch reoli eich cyfrif Ailgylchu Masnachol Powys yn rhwydd ac yn gyflym ar-lein, ar adeg sy'n gyfleus ichi.
Porth Cwsmer Ailgylchu Masnachol - Gorolwg o'r Cyfrif
Trwy ddefnyddio nodweddion hunanwasanaeth y porth cwsmer, gallwch:
- Weld manylion eich cytundeb, gan gynnwys lleoliadau safleoedd, y math a nifer y biniau a bocsys, diwrnodau ac amserau casglu a pha mor aml
- Gweld unrhyw ddiweddariadau a gohebiaeth sy'n ymwneud â'ch contract
- Defnyddio'r calendr ar-lein i weld pryd mae'r casgliadau a drefnwyd, ychwanegu casgliadau ychwanegol, ad-drefnu casgliadau a gollwyd ac ati
- Rhoi gwybod am achosion o fethu casglu
- Gofyn am gasgliadau ychwanegol tu hwnt i'r rhaglen arferol
- Rhoi gwybod am ddifrod i'r biniau a gofyn am rhai newydd
- Archebu sachau a dalwyd amdanynt o flaen llaw
- Gweld eich cytundeb a'ch dogfennau Nodyn Trosglwyddo Gwastraff
Os ydych chi'n ddefnyddiwr newydd i'r porth, defnyddiwch ein canllaw cam wrth gam (PDF, 571 KB) i'ch helpu i ddechrau arni.
Angen help? Cysylltwch â commercial.recycling@powys.gov.uk / 01597 810829