Ein gwasanaeth

Gall Ailgylchu Masnachol Powys gynnig gwasanaeth pwrpasol i ddiwallu eich anghenion, boed os oes gennych fwthyn gwyliau bychan, eich bod yn cynnal digwyddiad megis sioe amaethyddol, eich bod yn siop bentref neu fwyty mawr ... mae gennym rywbeth i weddu i bawb.
Mae'r opsiynau yn amrywio o flychau ailgylchu bychain hyd at finiau mawr.
Bwyd: Cadi bwyd, 180litr
Sbarion bwyd wedi'i goginio neu fwyd amrwd, gan gynnwys:
- Cig a physgod, gan gynnwys esgyrn bach
- Llysiau a ffrwythau
- Plisgyn wyau
- Bara, cacennau a theisennau wedi mynd yn hen
- Grawnfwydydd, reis, pasta a ffa
- Bagiau te a gwaddodion cof
Papur a cherdyn: Blychau bach, 240litr, 360litr, 660litr, 1100litr
- Papurau newydd a chylchgronau
- Catalogau a chyfeirlyfrau
- Post sothach
- Papur
- Amlenni
- Cardfwrdd
lastig, Caniau a Chartonau: Blychau bach, 240litr, 660litr, 1100litr
- Caniau bwyd a diod glân
- Ffoil a hambyrddau alwminiwm
- Poteli plastig glân (wedi'u rinsio, eu gwasgu, heb gaead)
- Topiau a chaeadau poteli plastig
- Topiau poteli metel a chaeadau jariau
- Caniau aerosolau'r gegin a'r ystafell ymolchi
- Hambyrddau bwyd plastig glân
- Potiau a thybiau glân
- Cartonau glân
- Cynwysyddion papur gyda gwaelodion metel a leinin blastig (tiwbiau creision, tiwbiau toes, tybiau gronynnau grefi, ac ati)
- Cwpanau coffi papur glân (heb gaead)
Gwydr: Blychau bach, 240litr
- Poteli gwydr glân
- Jariau gwydr glân
Gwastraff gardd: 240litr
- Dail
- Toriadau Glaswellt
- Blodau
- Brigau a Changhennau Bach
- Sglodion Pren a rhisgl
Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu: Sachau gwastraff, 180litr, 360litr, 660litr
Taflen Ailgylchu Masnachol (PDF, 1 MB)
Gellir cloi'r rhan fwyaf o gynhwysyddion ac fe fyddant yn cael eu dosbarthu i'ch eiddo a'u gwagio ar sail fydd yn cael ei gytuno. Am ragor o wybodaeth ar feintiau a dewisiadau, rhowch alwad i ni.
Nid ydym yn casglu eitemau swmpus gan gwsmeriaid busnes. Mae rhestr o gwmnïau rheoli gwastraff cofrestredig gyda thrwyddedau cludo gwastraff, ar gael ar wefan CNC.
Pryd ydym ni'n casglu?
Gallwn gyflwyno amrywiaeth o opsiynau i gasglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu. Cysylltwch â ni i drafod pecyn sy'n gweddu i chi.
A yw'r taliadau gwastraff wedi eu cynnwys o fewn trethi busnes?
Na, nid yw taliadau gwastraff wedi'u cynnwys yn eich trethi busnes. Mae'r math o wastraff a'r cyfanswm a gynhyrchir gan bob busnes, sefydliad/mudiad neu elusen yn amrywio'n enfawr, felly fe fyddai tâl cyffredinol i waredu â gwastraff a phrosesu deunyddiau ailgylchu yn annheg. Gallwn gyflwyno gwasanaeth pwrpasol a dyfynbrisiau unigol, felly dewch i gysylltiad i drafod hyn yn fanylach.
Beth mae'r taliadau Ailgylchu Masnachol yn eu cynnwys?
Mae'r taliadau yn cynnwys:
- Pob cynhwysydd, ar gyfer hyd eich contract
- Casgliadau rheolaidd
- Gwaredu â gwastraff, gan gynnwys treth tirlenwi
- Prosesu deunyddiau i'w hailgylchu
- Yr holl waith i weinyddu contractau, y gwaith papur a'r dogfennau dyletswydd gofal
Cwsmeriaid newydd - gofyn am bris Ailgylchu Masnachol - Cwsmer Newydd