Toglo gwelededd dewislen symudol

Ein gwasanaeth

Our service

Gall Ailgylchu Masnachol Powys gynnig gwasanaeth pwrpasol i ddiwallu eich anghenion, boed os oes gennych fwthyn gwyliau bychan, eich bod yn cynnal digwyddiad megis sioe amaethyddol, eich bod yn siop bentref neu fwyty mawr ... mae gennym rywbeth i weddu i bawb.

Mae'r opsiynau yn amrywio o flychau ailgylchu bychain hyd at finiau mawr.

Bwyd: Cadi bwyd, 180litr

Papur a cherdyn: Blychau bach, 240litr, 360litr, 660litr, 1100litr

Plastig a chaniau: Blychau bach, 240litr, 660litr, 1100litr

Gwydr: Blychau bach, 240litr

Gwastraff gardd: 240litr

Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu: Sachau gwastraff, 180litr, 360litr, 660litr

Taflen Ailgylchu Masnachol (PDF, 7 MB)

Gellir cloi'r rhan fwyaf o gynhwysyddion ac fe fyddant yn cael eu dosbarthu i'ch eiddo a'u gwagio ar sail fydd yn cael ei gytuno. Am ragor o wybodaeth ar feintiau a dewisiadau, rhowch alwad i ni.

Nid ydym yn casglu eitemau swmpus gan gwsmeriaid busnes. Am ragor o wybodaeth am gontractwyr gwastraff lleol, edrychwch yn yr Yellow Pages.

Pryd ydym ni'n casglu?

Gallwn gyflwyno amrywiaeth o opsiynau i gasglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu. Cysylltwch â ni i drafod pecyn sy'n gweddu i chi.

A yw'r taliadau gwastraff wedi eu cynnwys o fewn trethi busnes?

Na, nid yw taliadau gwastraff wedi'u cynnwys yn eich trethi busnes. Mae'r math o wastraff a'r cyfanswm a gynhyrchir gan bob busnes, sefydliad/mudiad neu elusen yn amrywio'n enfawr, felly fe fyddai tâl cyffredinol i waredu â gwastraff a phrosesu deunyddiau ailgylchu yn annheg. Gallwn gyflwyno gwasanaeth pwrpasol a dyfynbrisiau unigol, felly dewch i gysylltiad i drafod hyn yn fanylach.

Beth mae'r taliadau Ailgylchu Masnachol yn eu cynnwys?

Mae'r taliadau yn cynnwys:

  • Pob cynhwysydd, ar gyfer hyd eich contract
  • Casgliadau rheolaidd
  • Gwaredu â gwastraff, gan gynnwys treth tirlenwi
  • Prosesu deunyddiau i'w hailgylchu
  • Yr holl waith i weinyddu contractau, y gwaith papur a'r dogfennau dyletswydd gofal
     

Cwsmeriaid newydd - gofyn am bris Ailgylchu Masnachol - Cwsmer Newydd

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu