Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn

Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd a maint yr ailgylchu a gesglir o weithleoedd ledled Cymru.
Pa wastraff sydd angen ei ddidoli
Dylid gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu ar wahân:
- Bwyd
- Papur a cherdyn
- Gwydr
- Plastig, Caniau a Chartonau
Taflen Ailgylchu Masnachol (PDF, 1 MB)
Mae gwaharddiad hefyd ar:
- Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
- Gwastraff a gesglir ar wahân sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
- Pob gwastraff pren sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
I bwy mae'r gyfraith yn berthnasol
Mae angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.
Mae Ailgylchu Masnachol Powys eisoes yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon drwy gynnig casgliadau ar wahân ar gyfer gwastraff tebyg i wastraff cartref o weithleoedd.
Mae taflu eitemau y gellir eu hailgylchu i'r bin gwastraff gweddilliol, y dylid eu casglu ar ôl eu didoli, yn drosedd. Byddai'n drosedd hefyd i ni gasglu gwastraff gweddilliol sy'n cynnwys eitemau y gellir eu hailgylchu, y dylid eu casglu ar ôl eu didoli. Ni fydd biniau gwastraff gweddilliol sy'n cynnwys yr eitemau hyn yn cael eu gwagio nes bod y gwastraff wedi'i ddidoli'n gywir.
Am fwy o wybodaeth am y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle a sut y maent yn eich effeithio, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.