Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dweud eich dweud am gynigion diwygio treth y cyngor

Image of new British money

30 Ionawr 2024

Image of new British money
Mae preswylwyr ym Mhowys yn cael eu hannog i ddweud eu dweud am gynigion gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio treth y cyngor.

Mae treth y cyngor yn helpu i ariannu'r gwasanaethau hanfodol yr ydym ni oll yn dibynnu arnynt bob dydd ac sy'n cael eu darparu gan gynghorau lleol, gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd cyhoeddus, gofal cymdeithasol a glanhau strydoedd, ac mae'n talu am tua phumed ran o wariant y cynghorau.

Mae'r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn cau ddydd Mawrth, 6 Chwefror, yn gofyn i breswylwyr beth yw eu barn nhw am wahanol ddulliau gweithredu posibl sydd wedi eu cynllunio i wneud treth yn decach, gan gynnwys ychwanegu bandiau newydd ar gyfer treth y cyngor, newid ffioedd cyfraddau treth ar gyfer pob band, ac adolygu disgowntiau a gostyngiadau.

Bydd rhai o'r cynigion yn lleihau'r gyfran o dreth y cyngor a delir ar gyfer eiddo Bandiau A - C ac yn cynyddu'r gyfran o dreth y cyngor a delir ar gyfer eiddo Bandiau E ac uwch.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am gyflymder y newid yr hoffai pobl ei weld. Y dyddiad cynharaf ar gyfer unrhyw newidiadau a ddaw i rym yw 1 Ebrill 2025. Fodd bynnag, gellir gohirio hyn tan dymor nesaf y Senedd, neu ei gyflwyno mewn camau.

Yn gyfochrog â'r gwaith hwn, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn paratoi i gyflawni ailwerthusiad arfaethedig o bob un o'r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru i sicrhau bod prisiant yn gyfredol ac yn unol â gwerth cyfredol eiddo.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid ac Aelod Cabinet ar gyfer Trawsnewid Corfforaethol a Chyllid: "Rwyf am annog cynifer o breswylwyr ag sy'n bosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad Treth y Cyngor hwn fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu gweld yn glir yr hyn mae pobl Powys am ei gael.

"Mae hwn yn fater pwysig iawn sy'n effeithio ar bob cartref ym Mhowys a ledled Cymru, felly rwyf yn eich annog chi i beidio â cholli'r cyfle hwn i wneud yn siŵr bod eich safbwyntiau'n cael eu hystyried."

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i www.llyw.cymru/treth-gyngor-decach-cam-2