Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn
31 Ionawr 2024
Cafodd y ddeddfwriaeth newydd hon gan Lywodraeth Cymru ei chymeradwyo gan y Senedd yn ôl ym mis Tachwedd 2023. Cafodd ei chyflwyno i wella ansawdd a maint yr ailgylchu sy'n cael ei gasglu o weithleoedd ledled Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o weithleoedd eisoes wedi derbyn llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru sy'n darparu gwybodaeth am y rheoliadau ailgylchu newydd a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i sicrhau eu bod yn cydymffurfio erbyn 6 Ebrill 2024.
Caiff pob busnes, elusen a sefydliad y sector cyhoeddus wahoddiad i fynychu cyfres o weminarau am ddim i helpu i ateb cwestiynau a darganfod manylion y rheoliadau sydd ar ddod a sut y bydd yn effeithio arnynt. Gallwch gofrestru yma: Ailgylchu yn y Gweithle - Gweminarau (wrapcymru.org.uk)
Yn ei grynswth, bydd angen i weithleoedd ddidoli eu gwastraff yn yr un modd ag y mae cartrefi Powys yn ei wneud eisoes. Ar ôl didoli i'r cynwysyddion perthnasol neu finiau ailgylchu, caiff yr ailgylchu ei gasglu ar wahân fel a ganlyn:
- Bwyd
- Papur a chardfwrdd
- Gwydr
- Metel, plastig a chartonau
- Tecstilau heb eu gwerthu
- Cyfarpar trydanol ac electronig bach heb eu gwerthu
Bydd y rheoliadau newydd hefyd yn cynnwys gwahardd y canlynol:
- Anfon gwastraff bwyd i garthffos (unrhyw faint ohono)
- Anfon gwastraff sy'n cael ei gasglu ar wahân i losgydd neu dirlenwi
- Anfon eich holl wastraff pren i dirlenwi
"Mae pobl Powys eisoes yn gyfarwydd iawn ag ailgylchu'r eitemau hyn gyda chasgliadau ymyl y cyrb yn eu cartrefi." Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Felly rydym ni'n gobeithio na fydd hyn yn ormod i weithleoedd ymdopi ag e."
"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r rheoliadau hyn i helpu Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, a gwneud cynnydd tuag at economi cryfach a gwyrddach.
"Mae'n bwysig fod pob gweithle, boed yn fawr neu'n fach, yn darllen y newidiadau sydd ar ddod ac yn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol am sut maen nhw'n gwaredu eu gwastraff i sicrhau eu bod yn dilyn llythyren y ddeddf. Cofiwch, fe fydd taflu eitemau ailgylchadwy yn y bin dros ben, y dylid fod wedi eu casglu a'u didoli, yn dyfod i fod yn drosedd.
"Ond rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n gallu gwneud hyn gartref, felly beth am ei wneud yn y gwaith hefyd."
Am ragor o wybodaeth am Reoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, sut y bydd yn effeithio arnoch chi a rhai camau defnyddiol i'ch helpu chi i gydymffurfio, ewch i: https://www.llyw.cymru/gweithle-ailgylchu