Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Angen llety ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Image of bed and breakfast

31 Ionawr 2024

Image of bed and breakfast
Mae busnesau ym Mhowys yn cael eu hannog gan y cyngor sir i fanteisio ar yr ystod o gyfleoedd a fydd ar gael iddynt pan fydd y sir yn cynnal un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop yn ddiweddarach eleni.

Mae cyffro'n cynyddu mewn cymunedau ar draws Powys gydag Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, gael ei chynnal yno ar gaeau Fferm Mathrafal ger Meifod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.

Mae Cyngor Sir Powys yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Urdd, y pwyllgor trefnu lleol, cymunedau lleol, busnesau a gwirfoddolwyr i wneud y gorau o'r ystod o gyfleoedd y bydd cynnal yr Eisteddfod ym Mhowys yn eu cynnig i'r sir.

Mae'r cyngor yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd trwy ddarparu gwybodaeth am letyau sydd ar gael yng ngogledd Powys ar gyfer y miloedd o ymwelwyr â'r Urdd bob blwyddyn, gan gynnwys cystadleuwyr a'u teuluoedd, deiliaid stondinau masnach, y trefnwyr a'r cyfryngau.

Os oes gennych fusnes llety yng ngogledd neu ganolbarth Powys ac os ydych yn awyddus i gael eich cynnwys ar restr llety Eisteddfod yr Urdd ar gyfer Eisteddfod Maldwyn 2024, yna anfonwch e-bost i tourism@powys.gov.uk gyda'ch gwybodaeth gyswllt, lleoliad a math o lety.

Mae Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 hefyd wedi trefnu Brecwast Busnes ddydd Gwener, Chwefror 9 yn y Royal Oak yn y Trallwng fel y gall busnesau lleol glywed am y cyfleoedd yn yr ŵyl eleni.  I gofrestru eich diddordeb e-bostiwch Nannonevans@urdd.org

Dywedodd y Cynghorydd David Selby,yr  Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Llewyrchus: "Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ddiwethaf yn Sir Drefaldwyn yn 1988 ac mae ymdeimlad o gyffro yn cynyddu wrth i'r paratoadau fynd yn eu blaenau ar gyfer yr hyn yr ydym yn siŵr fydd yn ddigwyddiad gwych yn ddiweddarach eleni.

"Bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn darparu digon o gyfleoedd i fusnesau lleol gan fod disgwyl i filoedd o ymwelwyr ddod draw i'r digwyddiad eleni. Byddwn yn annog busnesau llety i gynnwys eu hunain ar y rhestr llety a busnesau lleol eraill i fynychu'r Brecwast Busnes sy'n cael ei gynnal yn y Trallwng ym mis Chwefror."