Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adroddiad ar yr Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant

Image of a girl on a swing

1 Chwefror 2024

Image of a girl on a swing
Mae Cyngor Sir Powys wedi croesawu adroddiad ar drefniadau diogelu plant yn y sir yn dilyn arolwg amlasiantaeth.

Ym mis Hydref, cynhaliwyd Cyd-arolwg o Drefniadau Diogelu Plant (JICPA) gan Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.

Bu'n gwerthuso ymateb y Cyngor, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Heddlu Dyfed Powys i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant ym Mhowys.

Darganfuwyd llawer o gryfderau ym mhob un o'r gwasanaethau yn ystod y cyd-arolwg a chynigiwyd argymhellion lle teimlwyd y gellid gwneud gwelliannau.

Dywed y Cyng. James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae gennym staff hynod roddedig sy'n cyflawni gwaith hollbwysig o ran cydweithio gydag asiantaethau eraill i geisio cadw plant yn ddiogel rhag eu cam-drin a'u hesgeuluso.

"Rwyf yn falch iawn i'r arolygwyr nodi cymaint o agweddau cadarnhaol ar y gwaith yma ym Mhowys ac rwyf yn ddiolchgar eu bod wedi tynnu sylw at ardaloedd lle gallwn wella. Byddwn yn derbyn eu hargymhellion oherwydd rydym am sicrhau fod pob plentyn yn y sir yn cael ei ddiogelu, ac yn derbyn gofal priodol."

Ymhlith rhai o ganfyddiadau'r adroddiad roedd:

  • Bod gan sefydliadau diogelu ym Mhowys systemau a threfniadau yn eu lle ar gyfer cydweithio effeithiol pan ystyrir fod plant mewn perygl o gam-drin neu esgeulustod;
  • Y ceir ymateb cadarnhaol i gyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth;
  • Bod cyfraniadau amlasiantaeth yn amlwg wrth fynd i'r afael â diogelwch y plentyn dan sylw trwy gynlluniau diogelu gofal a chymorth (CASPP);
  • Mae ysgolion ledled Powys yn gweithio'n dda gydag ystod eang o wasanaethau er mwyn cefnogi plant a theuluoedd;
  • Roedd rhieni'n canmol gan nodi fod cymorth ysgolion a lles a diogelwch disgyblion yn flaenoriaeth uchel ar draws pob ysgol.

I ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ewch i  www.arolygiaethgofal.cymru/ein-hadroddiadau/adroddiadau-arolygu-ac-adolygu-awdurdodau-lleol