Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae rhywun y gwyddoch amdano angen help ond nid yw'n sylweddoli bod ei angen arno

Mae'n eithaf cyffredin sylwi bod angen help ar rywun rydym yn eu hadnabod. Yn aml gallwn weld nad yw'n gofalu amdano'i hun yn iawn, neu mae'n achosi niwed iddo'i hun neu i bobl eraill oherwydd nad yw'n gallu rheoli'r hyn a wna. Neu mae'n bosibl y byddwn yn sylwi bod rhywun yn cael ei gam-drin neu bod rhywun yn cymryd mantais ohono ond dydyn ni ddim yn gwybod sut i atal hyn.
Image of an older man

Siaradwch a ni

Os ydych yn pryderu am rywun arall, gallwch gysylltu a'r Gwasanaethau Gofal Oedolion. Os ydym yn cytuno bod eich pryderon yn rhywbeth y dylem ni eu trin, byddwn yn dechrau asesiad neu archwiliad.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Fe wnawn ein gorau i weithio gyda'r unigolyn, felly byddwn yn ceisio dod i'w hadnabod a darganfod 'beth sydd wedi mynd o'i le'.

Rydym yn sylweddoli nad yw efallai yn dymuno cael yr help a gynigwn. Fodd bynnag, mae yna adegau pan mae gofyn i ni o dan y gyfraith asesu neu archwilio, boed hynny'n dderbyniol ganddo ai peidio. Dim ond os bydd popeth arall yn methu y byddwn yn gwneud unrhyw beth yn groes i ddymuniadau rhywun, a byddai pawb yn gobeithio osgoi gwneud pethau yn erbyn ei ewyllys. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i ni wneud hynny ambell waith, ac mae'n rhaid i ni ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol pan fydd hynny'n digwydd.

Beth os oes angen help ar yr unigolyn ond mae'n ei wrthod?

Fel arfer, pan fydd pobl eraill mor bryderus fel eu bod wedi galw'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion, y rheswm yw bod gan yr unigolyn sawlch meddwl neu niwed i'w ffordd o feddwl. Nid dyma sy'n digwydd bob tro, fodd bynnag. Bydd llawer ohonom yn ei chael hi'n anodd gofyn am gymorth, a chyfaddef na allwn ofalu amdanom ein hunain yn iawn. Weithiau, felly, bydd y sefyllfaoedd hyn yn codi oherwydd ofn, balchder a gwrthod, ac yn yr achosion hyn byddwn yn ceisio annog yr unigolyn i ymddiried ynom a derbyn ein cymorth.

Weithiau bydd pobl yn disgwyl i ni wneud pethau nad yw'n gyfreithlon i ni eu gwneud. Os yw'r sawl rydym yn pryderu amdano yn gallu penderfynu drosto'i hun, yna ni allwn orfodi dim arno. Yn ol y gyfraith gall pob un ohonom wneud ein penderfyniadau ein hunain os oes gennym y gallu meddyliol i wneud hynny, hyd yn oed os yw eraill yn credu ein bod yn anghywir.

Mae'n bosibl na fydd y stori'n dod i ben yn y fan yma chwaith, oherwydd bydd pethau'n datblygu, a gallai'r rhesymau pam y mae pobl wedi bod yn pryderu ddangos bod yna broblem nad yw eto wedi cyrraedd y pwynt lle gellir gweithredu ar y mater.

Mae rhywun rwy'n gofalu amdano angen mwy o help nag y galla i ei roi. Beth ddylwn i wneud?

Mae hyn yn sefyllfa eithaf cyffredin, ac fe all fod yn anodd. Fel arfer, mae'r sawl sy'n derbyn y gofal yn ddigon bodlon ar y sefyllfa fel y mae hi, ond mae'r sawl sy'n gofalu amdano yn cael anhawster ymdopi.  

Os ydych chi'n gofalu am rywun ond yn teimlo ei bod yn ormod i chi ei drin ar eich  pen eich hun, mae angen i chi fod yn onest gyda'r sawl rydych chi'n gofalu amdano. Gallwn eich helpu a'ch cynorthwyo, ond allwn ni ddim gwneud hynny oni bai eich bod yn siarad a ni, ac yna'n gweithio gyda ni i annog y sawl rydych yn gofalu amdano i dderbyn cymorth o leoedd eraill.

Gall fod yn anodd i gychwyn, ond fel arfer bydd pethau'n gweithio allan yn y tymor hir. 

 

 

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau