Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfleoedd i ddysgu a rhannu i drefnwyr digwyddiadau Powys

A man using a walkie-talkie

5 Chwefror 2024

A man using a walkie-talkie
Gwahoddir trefnwyr digwyddiadau masnachol a chymunedol ym Mhowys i gymryd rhan mewn prosiect newydd a all eu helpu gyda hyfforddiant, rhwydweithio a chefnogaeth.

Bydd hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am gynlluniau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata ar y cyd a digwyddiad newydd i'w gynnal yn yr hydref, a fydd yn helpu i hyrwyddo'r hyn sydd gan y sir i'w gynnig unwaith y bydd tymor brig twristiaeth yr haf drosodd.

Mae'r prosiect yn cael ei ddarparu gan Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys, sy'n chwilio am drefnwyr digwyddiadau sydd â diddordeb, i lenwi'r ffurflen ar-lein hon. Gellir ei defnyddio i egluro pa gymorth a chefnogaeth fyddai fwyaf gwerthfawr iddynt.

Llwyddodd y prosiect i sicrhau grant gwerth £100,000 gan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ('Levelling Up' Llywodraeth y DU) i helpu i gefnogi'r gwaith hwn.

"Ein nod yw helpu i esblygu sector digwyddiadau'r sir dros y 12 mis nesaf tra hefyd yn adfer rhywfaint ar y difrod a achoswyd iddo gan bandemig COFID-19," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y cyngor dros Bowys Mwy Llewyrchus.

"Mae Powys eisoes yn adnabyddus am rai o'r digwyddiadau y mae'n eu cynnal, fel y Sioe Frenhinol eiconig a Gŵyl y Gelli, ond mae hefyd yn gartref i nifer o gynulliadau cymunedol bywiog llai sydd hefyd yn cyfrannu at y cynnig i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Credwn y gall y sector chwarae rhan hyd yn oed yn fwy wrth dyfu economi'r sir, gan greu mwy o swyddi a denu buddsoddiad ychwanegol o'r tu allan."

Mae tair sesiwn 'galw heibio' ar gyfer trefnwyr digwyddiadau wedi'u trefnu, lle gallant drafod eu cynlluniau a'u hanghenion am gymorth, a'r prosiect ei hun, gydag aelodau o Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio'r cyngor:

  • Y Gaer, Aberhonddu, LD3 7DW, dydd Iau 29 Chwefror, 9yb - 3yp.
  • Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod, LD1 6AH, dydd Iau 14 Mawrth, 9yb - 4.30yp.
  • Hafan yr Afon, Y Drenewydd, SY16 2NH, dydd Mercher 20 Mawrth, 10yb - 3yp.

Menter gymdeithasol Agor Drenewydd yw un o'r nifer o sefydliadau ym Mhowys sy'n cynnal digwyddiadau ac sydd wedi croesawu'r fenter.

Meddai Stuart Owen, eu Prif Swyddog Gweithredol: "Mae digwyddiadau lleol yn agwedd bwysig ar dwristiaeth, cymdeithasu, adloniant a dysgu ledled Canolbarth Cymru. Yn Y Drenewydd yn unig mae gennym 20 o wahanol ddigwyddiadau awyr agored sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn, ynghyd â Parkrun wythnosol a phoblogaidd iawn.

"Rwy'n siŵr y bydd y trefnwyr lleol yn croesawu cefnogaeth i hyrwyddo eu digwyddiadau rheolaidd. Byddwn yn sicr yn croesawu cyfleoedd i ddysgu a rhannu."

Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer rhwydwaith digwyddiadau ym Mhowys, ebostiwch: events@powys.gov.uk