Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Fedrwch chi redeg sesiynau hyfforddi i hybu sgiliau oedolion Powys?

A man learning digital skills in a class

6 Chwefror 2024

A man learning digital skills in a class
Mae sefydliadau sy'n gallu rhedeg hyfforddiant ar gyfer oedolion Powys, er mwyn hybu eu sgiliau a'u rhagolygon am waith, yn cael eu gwahodd i wneud cais ar gyfer Grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin (Ffyniant Bro).

Mae Bwrdd Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys (SPF) wedi galw o'r newydd am geisiadau o dan y thema Pobl a Sgiliau, ar gyfer prosiectau sy'n cychwyn ar ôl 1af Ebrill.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr alwad agored yma: Pumed Galwad ar gyfer Ceisiadau

Sut i ymgeisio: Sut i Ymgeisio

Mae'r bwrdd yn chwilio am brosiectau a fydd yn:

  • Cynorthwyo cynhwysiant digidol, trwy ddysgu sgiliau digidol hanfodol.
  • Ail-hyfforddi cyflogeion mewn sectorau gydag allyriadau carbon uchel.
  • Ymgysylltu â phobl ifanc a gwella eu sgiliau annhechnegol.

Gellir cyflwyno ceisiadau hyd at ddiwedd dydd Sul, 3ydd Mawrth.

Bwrdd Partneriaeth Leol SPF Powys sy'n gyfrifol am benderfynu sut i wario'r £26.2 miliwn o gyllid SPF y DU a ddyrannwyd i'r cyngor ar gyfer 2022-25.

Cefnogir y bwrdd gan Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys.

"Byddem yn hoffi derbyn rhagor o geisiadau ar gyfer prosiectau sy'n diwallu'r tri amcan a amlinellir uchod, i sicrhau ein bod yn cynnwys pob agwedd ar Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru," meddai'r Cyng. David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Leol SPF Powys.

Am ragor o wybodaeth am CFfG DU ym Mhowys, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU neu e-bostio ukspf@powys.gov.uk

Mae Partneriaeth Lleol GFfG Powys yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grŵp Colegau NPTC, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, Mudiad Sefydliadau Gwirfoddol, CFfI Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Siambrau Cymru, ac Un Llais Cymru.