Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwybrau at Ffyniant: Cyngor Sir Powys a Ramblers Cymru yn cydweithio ar brosiect datblygu teithiau cerdded cymunedol

Image of people walking in the countryside

7 Chwefror 2024

Image of people walking in the countryside
Mae Cyngor Sir Powys a Ramblers Cymru wrth eu boddau wrth gyflwyno "Llwybrau at Ffyniant", sef ymdrech ar y cyd i hybu ymglymiad y gymuned at fynediad, creu cyfleoedd economaidd, a gwella profiad ymwelwyr wrth ddatblygu llwybrau cerdded yn y Trallwng, Llangors a Choelbren.

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru: "Rydyn ni wrth ein boddau wrth weithio â Chyngor Sir Powys i wella llwybrau a mynediad. Byddwn ni'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned i chi 'alw heibio' iddynt yn ystod mis Chwefror. Bydd hyn yn galluogi pobl leol i rannu eu hoff dro cerdded a gwybodaeth am lefydd a allai elwa o gael gwella'u llwybrau cerdded.

"Felly, os ydych chi'n angerddol dros ddatblygu llwybrau cerdded, arwain teithiau cerdded, neu am ddysgu sgiliau newydd i gefnogi digwyddiadau cerdded, galwch heibio am baned i roi gwybod i ni."

Galwch heibio digwyddiadau ymgynghori yn y  canolfannau canlynol:

  • Llangors - Canolfan Gymunedol Llangors - Sadwrn 10 Chwefror, 10am - 3pm.
  • Y Trallwng - Pencadlys Sgowtiaid 1af Clive a Chanolfan Gymunedol Y Trallwng - Sul 11 Chwefror, 10am- 3pm.
  • Coelbren - Neuadd Les a Choffa Coelbren, Sadwrn 17 Chwefror, 10am - 3pm.

Os na allwch fod yn bresennol ond yr hoffech gymryd rhan, cwblhewch ein holiadur am lwybrau cymunedol  https://www.ramblers.org.uk/powyssurvey neu e-bostio RamblersCymru@ramblers.org.uk

Wrth adeiladu ar lwyddiant gwaith blaenorol, bydd y prosiect hwn yn helpu gwirfoddolwyr lleol i ddatblygu sgiliau ymarferol darllen map, datblygu llwybrau cerdded, cynnal a chadw llwybrau cerdded, yn ogystal â gwella arwyddion ac isadeiledd i sicrhau mynediad hawdd i bawb.

Caiff cyfres newydd o ganllawiau llwybrau cerdded ar gyfer llwybrau cerdded newydd a gwell eu creu a byddant ar gael ar-lein i gymunedau lleol eu mwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae Powys wedi ei bendithio gan rai o'r mannau awyr agored mwyaf trawiadol i breswylwyr a thwristiaid eu mwynhau ac mae prosiect Llwybrau at Ffyniant yn ffordd wych o gael pawb allan i wneud y mwyaf o'r hyn sydd gan Bowys i'w gynnig.

"Wrth ddatblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr i gynyddu perchnogaeth leol o rwydweithiau llwybrau, hybu balchder cymunedol a chynnal a chadw llwybrau cerdded, bydd y prosiect yn helpu i wella profiad y miloedd o bobl sy'n caru treulio amser yn yr awyr agored yn fforio llwybrau cerdded Powys.

"Bydd pawb sy'n angerddol dros yr awyr agored a cherdded yn awyddus i fod yn rhan o lunio dyfodol ffyniannus drwy ymgysylltu cymunedol, llwybrau cerdded hyfyw, a thwristiaeth gynaliadwy!"

Caiff y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chefnogaeth Cyngor Sir Powys