Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datgelu enw ysgol newydd yn Aberhonddu

Image of a primary school classroom

7 Chwefror 2024

Image of a primary school classroom
Mae ysgol gynradd newydd a fydd yn agor yn Ne Powys yn ddiweddarach eleni wedi cael ei henwi, dywedodd y cyngor sir.

Ysgol Golwg Pen y Fan fydd yr enw ar yr ysgol newydd a fydd yn agor yn Aberhonddu fis Medi nesaf.

Caiff yr ysgol newydd ei sefydlu yn dilyn uno Ysgol Iau Mount Street, Ysgol Babanod Mount Street ac Ysgol Gynradd Gymunedol Cradoc fel rhan o gynlluniau cyffrous Trawsnewid Addysg Cyngor Sir Powys ar gyfer dalgylch Aberhonddu.

Bydd yr ysgol newydd wedi ei lleoli ar y tri safle presennol i ddechrau cyn symud i adeilad newydd sbon yn Aberhonddu a fydd yn darparu cyfleusterau newydd 21 ganrif i ddisgyblion.

Gofynnwyd i'r disgyblion awgrymu enwau posibl i ddechrau. Yna cytunwyd ar restr fer o chwe enw gan y Corff Llywodraethu Dros Dro, a gofynnwyd i gymunedau'r ysgol am eu safbwyntiau am yr enwau ar y rhestr fer.

Ar ôl ystyried yr ymatebion, cytunodd y Corff Llywodraethu Dros Dro gynnig Ysgol Golwg Pen y Fan fel enw i'r ysgol newydd.

Dywedodd Jess Williams, Cadeirydd Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Golwg Pen y Fan: "Rwyf i a'r Corff Llywodraethu Dros Dro yn hynod o gyffrous am yr enw i'r ysgol newydd, sef Ysgol Golwg Pen y Fan.

"Rydym ni wedi mwynhau cydweithio â disgyblion, rhieni, staff a'r gymuned leol a hoffwn ddiolch iddynt am yr help, ymgysylltiad a chefnogaeth.

"Mae hwn yn gam ymlaen ffantastig i'r ysgol newydd ac edrychaf ymlaen at weld datblygiadau pellach a bod yn rhan ohonynt yn ystod y trawsnewid."

Dywedodd y Pennaeth, Sarah Court: "Roedd treulio amser yn yr ysgolion yn siarad â'r plant a staff wrth iddynt feddwl am syniadau ar gyfer ysgol newydd yn fraint.

"Mae cymuned yr ysgol wedi dewis enw hyfryd o'r detholiad a gyflwynwyd. "Mae'n grêt gweld yr ysgol newydd yn datblygu gam wrth gam ac rwy'n teimlo'n falch iawn o fod yn rhan o daith newydd Ysgol Golwg Pen y Fan."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mewn ychydig dros chwe mis, bydd pennod newydd ar gyfer addysg yn Aberhonddu yn dechrau gydag agoriad Ysgol Golwg Pen y Fan.

"Hoffwn ddymuno'r gorau i'r llywodraethwyr, rhieni a disgyblion dros y misoedd a ddaw wrth iddynt wneud paratoadau fel rhan o'r uno hwn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw wrth i ni weithio i wella profiad y dysgwr i'r plant hynny a fydd yn mynychu Ysgol Golwg Pen y Fan."

Bydd yr enw newydd yn amodol ar benderfyniad a ddirprwywyd gan yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Sy'n Dysgu.