Casglu barn ledled Canolbarth Cymru ar ddefnyddio ynni a thrafnidiaeth
8 Chwefror 2024
I gynorthwyo'r gwaith cynllunio, mae Arolwg Ynni bellach yn fyw er mwyn ymgysylltu â thrigolion Canolbarth Cymru ac mae ganddynt wyth wythnos i rannu eu barn.
Mae'r arolwg yn ceisio deall barn trigolion ar:
- Ddefnyddio ynni a thrafnidiaeth ar hyn o bryd
- Technolegau ynni carbon isel
- Systemau gwresogi carbon isel
- Opsiynau teithio cynaliadwy
Comisiynwyd yr arolwg yma gan Gyngor Sir Ceredigion ar ran Tyfu Canolbarth Cymru sy'n bartneriaeth rhwng Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys.
Bydd y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cael eu cwblhau erbyn gwanwyn 2024 a byddant yn bwydo i'r gwaith o greu Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru a fydd yn mapio'r galw am ynni a'r cyflenwad ynni at y dyfodol ym mhob rhan o'r wlad.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cynghorydd Sir Ceredigion Keith Henson, Aelod o'r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, a Chynghorydd Sir Powys Jackie Charlton, Aelod o'r Cabinet dros Bowys Gwyrddach: "Mae cynllunio ynni ardal leol yn nodi'r newid sydd ei angen yn y system ynni leol ac yn disgrifio'r manylion sydd eu hangen i gyrraedd y targedau allyriadau rhwng nawr a'r nod o sero net erbyn 2050. Mae'r arolwg hwn yn ddarn pwysig o'r cynllunio hwnnw. Po fwyaf o drigolion sy'n cymryd rhan, po fwyaf o ddata a gawn i ddeall y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu Canolbarth Cymru wrth bontio i sero net.
"Bydd y cipolwg a gawn yn sgil yr arolwg yn tynnu sylw at gamau gweithredu posib yn y dyfodol ar gyfer cynghorau lleol, darparwyr rhwydweithiau trydan a nwy, a phartïon lleol eraill, gan ein cynorthwyo i symud tuag at ffynonellau ynni mwy ecogyfeillgar."
Mae'r gwaith Cynllunio Ynni Ardal Leol yn cael ei arwain gan Energy Systems Catapult sy'n cydweithio'n agos gyda Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys.
Yn ôl Richard Leach, Uwch-ymgynghorydd gydag Energy Systems Catapult ar Drawsnewid Ynni Lleol, "I gyrraedd Sero Net rhaid i ni weithredu ar unwaith. Er mwyn cyrraedd ein targedau Sero Net mae angen gweithredu'n lleol mewn modd strategol, cost-effeithiol, gyda buddsoddiad sylweddol, a dyna pam yr ydym wedi arloesi gyda Chynllunio Ynni Ardal Leol. Dull cynllunio integredig yw hwn a arweinir gan ddata, gyda'r nod o helpu ardaloedd lleol i gynllunio a chyflawni system ynni Sero Net eu hunain at y dyfodol. Gall cynlluniau ynni gydlynu, mesur a dadrisgio'r buddsoddiad sydd ei angen, ond yr allwedd i unrhyw gynllun da yw ymgysylltu'n lleol a chael cefnogaeth yn lleol."
Cymerwch ran yn yr arolwg drwy ddilyn y ddolen hon: https://bit.ly/MidWalesLAEP. Bydd yr arolwg yn cau ar 31 Mawrth 2024