Newid yn yr Hinsawdd a Bioamrywiaeth
Cynllun uwchraddio boeleri
Mae'r cynllun yn darparu hyd at £6,000 i fusnesau bach dalu rhan o'r gost i osod pwmp gwres neu foeler biomas.
Cynllun Uwchraddio Boeleri - GreenEconomy.Wales
Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd
Wedi'i anelu at fusnesau yng Nghymru i ddatgarboneiddio. Benthyciadau rhwng £1,000 - £1,500,000.
Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd - Banc Datblygu (developmentbank.wales/cy)
SWEA - Gwasanaethau Ynni Busnes
Mae Asiantaeth Ynni Hafren Gwy yn darparu'r cyngor a'r cynlluniau gweithredu sydd eu hangen arnoch i nodi eich holl gyfleoedd i wella - a gwneud y newidiadau cywir ar yr adeg iawn i'ch busnes.
Gwasanaethau Ynni Busnes - Hafren Gwy
Green Economy Wales
Mae Green Economy Wales yn darparu llwyfan newyddion a chydweithio annibynnol a diduedd sy'n seiliedig ar ffeithiau ac sy'n darparu cyllid i fusnesau, hyfforddiant, digwyddiadau a newyddion datgarboneiddio ledled Cymru.
Bydd y ddarpariaeth ar y wefan yn datgelu'r cyfleoedd i fusnesau, yn amlygu'r rhwystrau sy'n dal cynnydd yn ôl, ac ar yr un pryd yn darparu profiad addysgol ac addysgiadol o werth uchel i fusnesau, y llywodraeth ac amrywiaeth o gyrff diwydiant ledled Cymru.
Yr Ymddiriedeolaeth Arbed Ynni - cyngor i fusnesau
Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant ac ymgynghori i gymunedau, awdurdodau lleol, y llywodraeth a busnesau ar effeithlonrwydd ynni yn y cartref, trafnidiaeth carbon isel, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Cyngor i fusnesau ac awdurdodau lleol - Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Gwybodaeth Newid Hinsawdd Cyngor Sir Powys
Datganodd Cyngor Sir Powys argyfwng hinsawdd ar 24 Medi 2020. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i leihau ei allyriadau carbon i sero net, yn unol â tharged sector cyhoeddus Cymru sef 2030.
Beth mae'r Cyngor yn ei wneud ar Newid Hinsawdd?
Tudalen bioamrywiaeth Cyngor Sir Powys
Mae'r dirwedd a'r bywyd gwyllt yn rhan o ecosystem sy'n darparu dŵr, bwyd a thanwydd ffres inni, yn ogystal ag incwm o dwristiaeth a chyfleoedd ar gyfer hamdden ac addysg. Yr enw ar y gwasanaethau a ddarperir gan natur yw gwasanaethau ecosystemau, ac mae ecosystemau cydnerth iach yn dibynnu ar fioamrywiaeth.
Deddf yr Amgylchedd (2016) Cymru
Mae Deddf yr Amgylchedd (2016) Cymru yn ddeddfwriaeth i gefnogi'r amgylchedd ac mae'n manylu ar sut mae'n ddyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth.
https://www.llyw.cymru/deddf-yr-amgylchedd-cymru-2016-taflenni-ffeithiau
Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig
Mabwysiadwyd y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs), a elwir hefyd yn Nodau Byd-eang, gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015 fel galwad gyffredinol i weithredu i ddod â thlodi i ben, diogelu'r blaned, a sicrhau bod pawb erbyn 2030 yn mwynhau heddwch a ffyniant.
Mae'r 17 SDG wedi'u hintegreiddio—maen nhw'n cydnabod y bydd gweithredu mewn un maes yn effeithio ar ganlyniadau mewn meysydd eraill, a bod yn rhaid i'r datblygiad gydbwyso cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Nodau Datblygu Cynaliadwy | Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig (undp.org)
Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor arbenigol i redeg a thyfu busnes.
Hafan | Busnes Cymru (llyw.cymru)
Rhaglen Sgiliau Sero Net
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn grant hyfforddi, sydd ar gael i bob cyflogwr yng Nghymru, sy'n dymuno prynu cyrsiau hyfforddi gan ddarparwyr hyfforddiant trydydd parti er mwyn iddynt gyflawni amcanion uwchsgilio eu busnes. "Rydyn ni eisiau helpu busnesau i dyfu trwy ddarparu cymorth hyfforddi i uwchsgilio ac ailsgilio eu gweithlu mewn sgiliau sero net. Bydd hyn yn eu galluogi i gyrraedd marchnadoedd y dyfodol ac ymateb i economi sy'n newid yn gyflym." Cefnogir cyllid gan Lywodraeth Cymru hyd at 50% o'r costau hyfforddi cymwys cyffredinol.
Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru)
Grant Cerbydau Trydan (EV) i Staff a Fflyd
Mae'r grant hwn ar gyfer busnesau bach a chanolig i ariannu cost gwaith adeiladu a gosod offer ehangach sydd ei angen er mwyn gosod sawl ChargePoint. Gall y gwaith fod ar gyfer socedi rydych chi am eu gosod nawr neu yn y dyfodol. Gall y grant hwn gynnwys gwaith fel gwifrau a physt. Mae'r grant yn talu am 75% o gost y gwaith, hyd at uchafswm o £15,000.
Hyfforddiant Llythrennedd Carbon
Nod Hyfforddiant Llythrennedd Carbon yw darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i greu newid cadarnhaol yn y ffordd yr ydym oll yn byw, yn gweithio ac yn ymddwyn er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Hafan - Prosiect Llythrennedd Carbon
Cynllun Gwefru yn y Gweithle
Mae'r Cynllun Gwefru yn y Gweithle (WCS) yn gynllun talebau sy'n rhoi cymorth i ymgeiswyr cymwys tuag at gostau ymlaen llaw prynu a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV).
Cynllun Codi Tâl yn y Gweithle: canllawiau i ymgeiswyr - GOV.UK (www.gov.uk)
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys
Mae Partneriaeth Natur Powys wedi creu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys sy'n manylu ar y camau lleol sydd eu hangen i adfer natur ym Mhowys. Mae aelodau'r Bartneriaeth bellach wedi ymrwymo i weithio tuag at gyflawni'r cynllun.
Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys
Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur - Cymru
Cyhoeddwyd Adroddiad Cyflwr Natur Cymru wedi'i ddiweddaru yn 2023. Mae'r adroddiad yn amlinellu sut mae natur wedi newid dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae'r adroddiad yn dangos bod llawer o rywogaethau yn dirywio ac mae 18% o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.
Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur
Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn cynnwys sefydliadau ledled Cymru yn cydweithio i gynorthwyo natur. Mae 25 Partneriaeth Natur Leol yng Nghymru sy'n aelodau. Ar eu gwefan gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i helpu natur.
Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru - Hafan (biodiversitywales.org.uk)
Polisi ailgylchu yn y gweithle
O 6 Ebrill 2024, bydd yn dod yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddusddatrys ei wastraff i'w ailgylchu.
Mae hefyd yn berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff tebyg i wastraff y cartref o weithleoedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd a swm ein dulliau o gasglu a wahanu gwastraff.
Ailgylchu yn y gweithle | LLYW. CYMRU