Cymorth yn y Cartref
Os ydych chi'n dechrau cael trafferth gyda thasgau bob dydd, efallai bod angen cymorth arnoch chi i aros yn annibynnol yn eich cartref. Gallai hyn fod ar gyfer pethau fel ymolchi a gwisgo, neu help cyffredinol o gwmpas y cartref.
Gall sefydliadau ddarparu'r math hwn o gymorth, sef gofal personol neu ofal cartref, am gyn lleied ag ychydig o oriau'r wythnos hyd at lawn amser.
Dewch o hyd i sefydliadau a allai eich helpu chi drwy chwilio yng nghyfeirlyfr ar-lein Dewis Cymru. Defnyddiwch chwileiriau fel 'cael bath', 'glanhau', neu chwiliwch drwy'r categorïau:
- Siopa, coginio a bwyta,
- ymolchi, gwisgo,mynd i'r tŷ bach,
- symud yn ddiogel o gwmpas y cartref,
- asiantaethau gofal yn y cartref
Pa bynnag anawsterau yr ydych yn eu profi, mae'n debygol fod yna offer neu dechnoleg y gallech ei brynu i'ch helpu chi, ac mae ein tudalen offer ac addasiadau yn darparu rhai awgrymiadau a syniadau.
Mae'n bosibl hefyd y gallai ein tîm colli synhwyrau helpu i roi cymorth i chi i fod yn annibynnol gartref gyda pheth cymhorthion synhwyraidd ar gyfer colli clyw a/neu golli golwg/ offer i'r deillion, ewch i'w tudalen wybodaeth yma: Cymorth Synhwyraidd Clyw a Gweledol
Mae gwasanaethau a phrosiect Cymorth yn y Cartref, yn rhan o raglen ehangach o waith i helpu i sicrhau fod ataliad a help cynnar a chymorth yn y cartref ar gael yn gyson i oedolion ledled Powys. Gallwch ddarllen rhagor am y cymorth sydd ar gael drwy ein gwasanaeth cymorth yn y cartref yma: Cymorth ac Atal Cynnar yn y Cartref
Cymorth byr dymor
Os ydych chi newydd ddod allan o'r ysbyty, neu os ydych chi wedi cael cyfnod o salwch a ddim yn ymdopi yn y cartref, mae'n bosibl bod angen peth cymorth ychwanegol arnoch chi yn y cartref i ddyfod yn annibynnol eto.
Gall Gwasanaeth Ail-alluogi Gofal Cymdeithasol i Oedolion Powys roi cymorth i chi am gyn lleied ag ychydig ddyddiau hyd at uchafswm o chwech wythnos i'ch helpu chi i ailddysgu sgiliau, adennill hyder, neu feistroli sgiliau newydd.
Ymhlith rhai o'r tasgau gallwn eu darparu mae: codi o'r gwely neu fynd i'r gwely, cael bath neu gawod, anghenion toiled.
Os ydych chi'n profi trafferthion yna gofynnwch am asesiad.
A fydd raid i mi dalu?
Os ydych yn cael eich asesu i fod ag angen cymorth byr dymor i ailddysgu sgiliau, adennill hyder neu feistroli sgiliau newydd, gellir darparu gwasanaethau ail-alluogi am ddim am hyd at uchafswm o chwech wythnos. Weithiau bydd angen y cymorth am gyfnod byrrach arnoch chi.
Ar ôl y cyfnod hwn, os oes angen cymorth tymor hirach arnoch chi, efallai bydd yn rhaid i chi dalu. Byddwch yn cael cais i gwblhau ffurflen asesu ariannol er mwyn pennu a oes angen cymorth tymor hirach arnoch a faint fydd angen i chi gyfrannu at eich cymorth a beth allai'r swm hwnnw fod.
Os oes raid i chi dalu am eich cymorth hir dymor gallwn roi cyngor i chi am sut i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi.