Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Erlyn ceidwad adar

Image of a chicken

15 Chwefror 2024

Image of a chicken
Mae methu cadw dofednod caeth i mewn pan oedd Parth Amddiffyn Ffliw Adar Cymru Gyfan ar waith wedi costio dros £2,700 i ddyn o ogledd Powys ar ôl iddynt gael eu herlyn gan y cyngor sir.

Cafodd Alastair Meikle o Ardd Afon, Tafolwern, Llanbrynmair ei erlyn am y drosedd gan Dîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys.

Cyhuddwyd y diffynnydd, a fethodd fynychu Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher 14 Chwefror, am fethu cydymffurfio â gofynion Datganiad perthnasol Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan, a Hysbysiad Erthygl 82 a gyhoeddwyd gan berson awdurdodedig, oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gadw'r dofednod caeth i mewn.

Roedd hyn yn groes i Erthyglau 6 a 76 Gorchymyn Ffliw Adar, a Ffliw Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 ac Adrannau 73 a 75 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Clywodd y llys nad oedd y diffynnydd wedi cadw ei ddofednod i mewn, er bod y gorchymyn ar waith ers 2 Rhagfyr, 2022. Cafodd Meikle ei gynghori gan swyddogion y cyngor o'r gofynion i'w ddofednod sawl gwaith rhwng 15 Rhagfyr, 2022 ac 8 Chwefror, 2023 - yn ysgrifenedig ac yn bersonol.

Pan ymwelodd swyddogion y cyngor, roedd y diffynnydd yn fygythiol ac yn eiriol ymosodol tuag atynt a honnodd nad oedd wedi cydsynio i'r ddeddfwriaeth berthnasol ac felly nad oedd yn bwriadu cydymffurfio â hi, dywedwyd wrth y llys.

Roedd Meikle wedi cael gwybod dro ar ôl tro o'r gofyniad i gartrefu neu amgáu'r holl ddofednod caeth ar ei safle ond methodd â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad tra bod parth amddiffyn ledled Cymru ar waith i atal lledaeniad y ffliw adar.

Cadarnhawyd achosion o ffliw adar ym Mhowys gan gynnwys un tua 15 milltir i ffwrdd o gyfeiriad y diffynnydd adeg eu diffyg cydymffurfio. Dywedwyd wrth y llys fod y diffyg cydymffurfio â'r gorchymyn cartrefu wedi parhau tan y dyddiad y cafodd y gorchymyn ei godi ym mis Gorffennaf 2023.

Cafwyd Meikle yn euog yn ei absenoldeb a chafodd ddirwy o £660, gorchymyn i dalu costau o £1,820 a gordal dioddefwr o £264.

Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Mwy Diogel: "Cyflwynwyd y mesurau bioddiogelwch trylwyr er mwyn amddiffyn dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar ac roedd yn bwysig bod pob ceidwad adar yng Nghymru yn dilyn y rhain i ddiogelu eu hadar ac atal lledaeniad y clefyd.

"Roedd diffyg cydymffurfio parhaus y diffynnydd a'r diystyriad llwyr o'r rhybudd a'r mesurau bioddiogelwch yn golygu ei fod yn peryglu ei haid, yn ogystal â heidiau ceidwaid adar eraill, a chynyddu'r risg fod y clefyd yn lledaenu.

"Pan ganfuwyd nad oedd yn cydymffurfio, cymrodd ein swyddogion y drosedd o ddifrif a gweithredu, sydd wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn."