Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cae chwaraeon newydd i'w osod yng Nghanolfan Chwaraeon Ystradgynlais

Image of an astroturf pitch

19 Chwefror 2024

Image of an astroturf pitch
Bydd gwaith i osod cae chwaraeon newydd mewn canolfan chwaraeon yn ne Powys yn digwydd yn ddiweddarach eleni.

Bydd astroturf newydd wedi'i wisgo â thywod yn cael ei osod yng Nghanolfan Chwaraeon Ystradgynlais, gan gymryd lle'r cae chwaraeon hen ffasiwn presennol. Fel rhan o'r gwaith, bydd cynllun goleuo gwell hefyd yn cael ei osod.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud ar ôl i Gyngor Sir Powys lwyddo i sicrhau Grant Cyfalaf Ysgolion Cymunedol gwerth £350,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cynhaliodd y cyngor a'i bartner hamdden, Freedom Leisure, arolwg gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys ysgolion a chlybiau chwaraeon i ofyn am eu barn ar y math o gae newydd yr hoffent ei weld yn cael ei osod.

Cafodd yr arolwg 286 o ymatebion, a gynorthwyodd y cyngor a Freedom Leisure yn eu penderfyniad i osod yr astroturf wedi'i wisgo â thywod.

Bydd y cae yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o chwaraeon awyr agored, at ddefnydd yr ysgol, clybiau chwaraeon a grwpiau hamdden yn ardal Ystradgynlais a'r cyffiniau.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen i wella cyfleusterau ar draws y sir er mwyn darparu manteision cadarnhaol i iechyd a lles cymunedau Powys.

Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Powys Mwy Llewyrchus: "Rwy'n falch iawn bod y gwaith o osod cae chwaraeon newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Ystradgynlais yn dechrau'n fuan.

"Mae'r datblygiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau hamdden cynhwysol o ansawdd uchel a chwbl hygyrch i bob cymuned ym Mhowys.  Mae hefyd yn enghraifft wych arall o weithio mewn partneriaeth rhwng y cyngor a Freedom Leisure."

Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar faterion Powys sy'n Dysgu: "Un o nodau'r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella hawl a phrofiad y dysgwyr.

"Bydd y cae newydd, a fydd yn gwella'r cyfleusterau yn y ganolfan, yn helpu'r cyngor i gyflawni'r nod hwn. Nid yn unig y bydd aelodau'r gymuned yn elwa o'r cae gwell hwn, bydd hefyd yn darparu arwyneb ar gyfer pob tywydd, i helpu dysgwyr i wella ac ymestyn eu gallu mewn chwaraeon, yn ogystal â'u lles."

Dywedodd Gwyn Owen, Rheolwr Ardal i Freedom Leisure yn Ne Powys: "Rydym yn falch iawn o weithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Sir Powys i ddarparu gwell profiad defnyddiwr i gymuned Ystradgynlais, ac nid oes gennym amheuaeth y bydd yn cael ei groesawu gan yr ysgol, yn ogystal â llawer o grwpiau, timau ac unigolion ar draws yr ardal."

Meddai Phil Grimes, Pennaeth Ysgol Maesydderwen: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'r cyngor a Freedom Leisure i sicrhau cae chwaraeon wedi'i ddiweddaru i'n dysgwyr a'r gymuned leol ei ddefnyddio.

"Bydd y cyfleusterau newydd yn ychwanegu at y ddarpariaeth o ansawdd uchel sydd gennym yn Ysgol Maesydderwen ac yn caniatáu i'n dysgwyr fynd o nerth i nerth wrth ddatblygu eu sgiliau chwaraeon."

Bydd y gwaith o roi wyneb newydd ar y cae yn cael ei wneud y Gwanwyn / Haf hwn yn dilyn proses dendro i benodi contractwr.  Bydd y gwaith o uwchraddio'r llifoleuadau yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.