Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Coed newydd i ddisodli rhai isel eu hansawdd fel rhan o ddatblygiad tai

Image of tree planting and a shovel

19 Chwefror 2024

Image of tree planting and a shovel
Bydd coed newydd yn cael eu plannu yn lle'r coed presennol sydd yn isel eu hansawdd neu mewn cyflwr gwael fel rhan o ddatblygiad tai newydd sydd ar y gweill yn y Drenewydd, yn ôl y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys yn adeiladu 32 o fflatiau un ystafell wely ar hen safle Tŷ Robert Owen yn y dref.

Fel rhan o'r datblygiad, sy'n cael ei adeiladu gan J Harper a'i Feibion ar ran y cyngor, bydd coed sydd o ansawdd isel neu mewn cyflwr gwael yn cael eu disodli gan goed newydd, fydd yn golygu lefel dderbyniol wrth wrthbwyso'r golled.

Mae cynlluniau rheoli tirwedd y datblygiad yn dilyn argymhellion yn yr adroddiad coedyddiaeth, gan gynnwys yr angen ar gyfer cynllun cadarn lliniarol i blannu coed wrth golli'r coed presennol.

Dywed y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Fel rhan o'r datblygiad hwn, cynhaliwyd arolwg a darganfuwyd fod nifer o goed sydd o ansawdd gwael neu mewn cyflwr gwael.

"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dyfodol gwyrddach ar gyfer ein stadau tai, felly byddwn yn tynnu lawr y coed presennol, ac yn plannu coed a llwyni cynhenid, uchel eu hansawdd fel rhan o'r datblygiad cyffrous hwn, fydd yn diwallu anghenion y gymuned leol."

Yn ôl y Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Deallwn y gall cael gwared ar goed fod yn fater emosiynol ar gyfer y gymuned leol mewn perthynas â datblygiadau newydd. Fodd bynnag, mae'n bwysig, os byddant yn cael eu tynnu lawr, bod cynllun plannu priodol yn ei le i sicrhau y gallwn gynnal bioamrywiaeth leol er mwyn helpu gwireddu Powys wyrddach."