Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cylch derbyniadau cyn ysgol yn agor ym mis Mawrth

Image of an adult and two children playing with blocks

23 Chwefror 2024

Image of an adult and two children playing with blocks
Dywedodd Cyngor Sir Powys y bydd y cylch derbyn i blant fydd yn mynd i ddarpariaeth cyn ysgol yn 2025 yn agor fis nesaf.

Ar ddydd Gwener, 1 Mawrth, bydd rhieni neu ofalwyr plant a anwyd rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022 yn gallu gwneud cais am le mewn lleoliad blynyddoedd cynnar yn barod i ddechrau yn 2025.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Sul, 31 Mawrth 2024.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r cyngor i sicrhau fod pob plentyn ym Mhowys yn cael mynediad at addysg blynyddoedd cynnar, rhan amser am ddim o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed.

Bydd pob plentyn cymwys yn derbyn hyd at 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar wedi'i ariannu os byddan nhw'n mynychu lleoliad addysg cyn oed ysgol cymeradwy.

Dim ond trwy fynychu lleoliad addysg cyn oed ysgol cymeradwy y bydd plant yn gallu derbyn addysg ran-amser am ddim.

Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i lenwi'r cais hwn cyn gynted ag y bydd y cylch derbyn yn agor er mwyn sicrhau bod eu plentyn yn cael y cyfle gorau am le yn y lleoliad cyn oed ysgol / blynyddoedd cynnar o'u dewis y flwyddyn nesaf.

"Os na chaiff ei lenwi mewn pryd, gallai beryglu lle eu plentyn yn eu hoff leoliad os yw'n un poblogaidd iawn."

Bydd angen i rieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein ynCais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu'n cael problemau llenwi neu anfon y cais, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 01597 826477 neu dros e-bost preschooladmissions@powys.gov.uk