Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cais i wneud Powys yn brif gyrchfan twristiaeth ddiwylliannol

Welsh Lavender

27 Chwefror 2024

Welsh Lavender
Mae prosiect sydd am osod Powys ar y map, drwy ddathlu ei diwylliant a'i threftadaeth yn mynd rhagddo bellach.

Mae'r cwmni ymgynghori Cymreig, Anian, wedi cael y dasg o roi bywyd newydd i'r hyn sydd gan y sir i'w gynnig o ran twristiaeth ddiwylliannol a rhoi ymwybyddiaeth newydd o falchder i'w phreswylwyr, ar ôl i Dîm Datblygu Economaidd ac Adfywio Powys lwyddo i ennill grant o £30,000 ar gyfer y gwaith oddi wrth Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth DU. (Ffyniant Bro). 

Caiff ymchwil ei wneud i asedau diwylliannol rhagorol y sir - o'i hanes canoloesol i wyliau modern heddiw - er mwyn blaenoriaethau syniadau. Yna bydd cynllun gweithredu tair blynedd o hyd yn cael ei lansio, gan amlinellu cyfleoedd am brofiadau newydd i ymwelwyr ac ymgyrchoedd marchnata.

Bydd Anian, sydd â phrofiad datblygu twristiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol, yn edrych ar arferion gorau twristiaeth ddiwylliannol mewn cyrchfannau eraill i ysbrydoli ei argymhellion.

"Amcan Astudiaeth Twristiaeth Diwylliannol Powys yw darparu prosiect a fydd yn helpu i adrodd straeon hanesyddol a diwylliannol arwyddocaol y sir mewn ffordd hyfyw sy'n ennyn diddordeb," dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus.

"Ein gobaith yw y bydd yn creu diddordeb ac adeiladu balchder yn y digwyddiadau unigryw hyn, gan eu gwneud nhw'n fyw hygyrch i gymunedau lleol, at ddibenion addysgiadol ac i ymwelwyr sy'n awyddus i'w drwytho'u hunain yn ymwybyddiaeth y sir o'i lle. Fe ddylai hefyd ddarparu platfform ar gyfer arddangos diwylliant byw cyfoes Powys."

Ychwanegodd Mari Stevens, Cyfarwyddwr Anian: "Mae ymwelwyr heddiw yn chwilio am brofiadau unigryw a dilys pan fyddan nhw mewn cyrchfan, a bydd datblygu syniadau sy'n dathlu, cefnogi a chynnal cymunedau lleol yn flaenoriaeth allweddol. 

"Mae tîm y prosiect yn credu y gallai dyfnder treftadaeth yr ardal, sy'n cael ei gydbwyso â'r hyn sydd ganddo i'w gynnig o ran creadigrwydd a gwyrddni, wneud iddi sefyll allan fel cyrchfan diwylliannol."

Bydd Anian yn cysylltu â'r rheini sy'n gweithio yn y sectorau twristiaeth a diwylliant, yn ogystal â grwpiau cymunedol a phobl ifanc, i gael eu safbwyntiau am gryfderau a gwendidau'r hyn sydd gan Bowys i'w gynnig ar hyn o bryd. Fe fydd hefyd yn ceisio cael syniadau ar gyfer prosiectau newydd cyffrous.

Gallwch ddweud eich dweud drwy gwblhau'r arolwg byr hwn ar-lein.

Bydd dau weithdy yn cael eu cynnal hefyd ddydd Mercher 13 Mawrth. Ymunwch â thîm Astudiaeth Twristiaeth Diwylliannol Powys yn y canolfannau canlynol:

  • Canolfan y Celfyddydau Canolbarth Cymru, Caersws, SY17 5SB, 10am - 12pm.

Neu yn:

  • Lafant Cymru, Cefnperfedd Uchaf, Maesmynis, Llanfair-ym-Muallt LD2 3HU, 2.30 - 5pm.

Bydd coffi, teisen a thaith tywys unigryw gyda pherchnogion y ddau fusnes yn gynwysedig. Mae'r gweithdai am ddim i bawb ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly archebwch nawr:

Caiff ymwelwyr â Welsh Lavender wahoddiad i nofio'n wyllt hefyd ym mhwll naturiol y safle ar ôl y sesiwn, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.

Am ragor o wybodaeth am Astudiaeth Twristiaeth Diwylliannol Powys, e-bostiwch: tourism@powys.gov.uk

LLUN: Welsh Lavender, Llanfair-ym-Muallt

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu