Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi diwydiannu celfyddydol a chreadigol y sir

Image of a female performing, sculpting and painting

5 Mawrth 2024

Image of a female performing, sculpting and painting
Mae rhaglen nawdd grant i gael ei chreu i gefnogi'r diwydiannau celfyddydol a chreadigol ym Mhowys ar ôl i'r cyngor sir sicrhau £675,000 oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG).

Mae Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i sicrhau'r nawdd sydd â'r nod o gefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y sir â rhaglen wedi ei hanelu at drawsnewid a chydnerthedd.

Rhagwelir y bydd y rhaglen grant yn annog partneriaeth a gweithio ar y cyd rhwng sefydliadau celfyddydol. Caiff arian ei ddyfarnu am amrywiaeth o weithgareddau fel adolygu busnes a datblygu modelau gweithredu.

Dyfarnwyd £221,750 pellach i'r gwasanaeth hefyd oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar ddiwedd 2023, a gaiff ei ddefnyddio i gefnogi tîm prosiect i weithio â sefydliadau celfyddydol a diwydiannol ledled y sir. Y nod fydd defnyddio gwefan StoriPowys.org.uk i ddarparu platfform cydweithredol i ddiwydiannau creadigol Powys, i hyrwyddo gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol ledled y sir, ynghyd â chyfleoedd i weithwyr ar eu liwt eu hunain hysbysebu eu sgiliau a'u hargaeledd.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys fwy Llewyrchus: "Rydym yn falch iawn o dderbyn yr arian hwn, a fydd yn helpu i gefnogi nifer o sefydliadau celfyddydol a chreadigol ledled Powys.

"Rydym ni'n cydnabod bod y sector diwylliannol yn chwarae rôl sylweddol wrth ddarparu swyddi ym Mhowys, yn ogystal â chyfrannu at hyfywedd economaidd cymunedau, trefi a phentrefi'r sir. Caiff grantiau eu dyfarnu i sefydliadu er mwyn iddynt ehangu eu cynaliadwyedd a'u cydnerthedd yn ystod yr amgylchiadau ariannol anodd y mae llawer ohonynt ynddo ar hyn o bryd."

Am wybodaeth bellach am y ddau brosiect cysylltwch â'r rheolwyr prosiect, Emily Bartlett neu Alice Briggs yn arts@powys.gov.uk