Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024
8 Mawrth 2024
Thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant, gan bwysleisio pwysigrwydd amrywiaeth a grymusiad ym mhob agwedd ar gymdeithas, ac mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i ddathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn, er mwyn gwella ansawdd bywyd pawb sy'n byw, ac yn gweithio yn y sir ac yn ymweld â hi.
Mae ychydig o dan 70 y cant o weithlu'r cyngor yn fenywod ac mae gan y cyngor Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol sydd â'r mwyafrif ohonynt yn fenywod, yn ogystal â Phrif Weithredwr a Chadeirydd y Cyngor sy'n fenywod a thri Aelod o'r Cabinet sy'n fenywod.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae'n hanfodol cael menywod mewn gwleidyddiaeth er mwyn sicrhau llais ar bob lefel. Mae rhai bylchau'n bodoli o ran cynrychiolwyr benywaidd, ond gwnawn ein gorau i'w llenwi, a byddwn yn parhau i annog rhagor o fenywod i ymuno â ni yn y dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Hoffwn anrhydeddu'r gwasanaeth anhygoel a ddarperir ar hyd a lled Powys gan (o leiaf) 13,465 o ofalwyr di-dal, gyda bron 66% ohonynt yn fenywod. Maent yn byw ac yn gweithio ochr yn ochr â ni, a'u prif gais yw cael cymorth emosiynol. Un ffordd i gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw cael gwybod pwy ydynt, a dangos iddynt ein bod am ofalu amdanynt."
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae'n rhaid i fenywod ymdrechu'n galed i gael eu cydnabod yn gyfartal mewn cymdeithas. Mae'n wych bod merched ifanc yn gallu cymryd rhan yn y rhan fwyaf o chwaraeon a gweithgareddau eraill ac mewn cyflogaeth. Gallwn droi'r teledu ymlaen a gwylio menywod yn chwarae a dyfarnu: pêl-droed a rygbi, gwirioneddol ysbrydoledig! Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd i helpu i amddiffyn menywod rhag camdriniaeth (a dynion!). Cydraddoldeb yw'r hyn rydyn ni i gyd yn anelu tuag ato. Rydym wedi cyflawni llawer iawn, rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon, mae hyn yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Baynham, Cadeirydd Cyngor Sir Powys: "Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae menywod wedi'i gyflawni ym Mhowys yn gyffredinol. Boed hynny mewn llywodraeth, chwaraeon, busnes neu ddiwylliant, mae yna lawer o fenywod lleol cryf a hyderus, gwych sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ein Sir a thu hwnt bob dydd."
Mae'r Cyngor yn weithle cynhwysol lle mae polisïau, gweithdrefnau a rhwydweithiau ar waith i gefnogi menywod a gweithwyr eraill ar bob cam o'u bywydau.
Gall unrhyw un gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.internationalwomensday.com