Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Deddf Galluedd Meddyliol a DoLS ar gyfer Rheolwyr

Cyflwynir gan Rhiannon Mainwaring, JMG Training & Consultancy

Cynulleidfa Darged: Rheolwyr a Goruchwylwyr mewn Gwasanaethau Darparwyr a Thimau Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant)

Hyfforddiant ar-lein dros Teams

Nodau:

Sicrhau fod uwch aelodau staff, rheolwyr gwasanaethau, a darparwyr goral o 16+ oed yn meddu ar ddealltwriaeth fanwl o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a Safonau Amddifadu o Ryddid, 2009 I'w galluogi i arwain, llywio a herio staff rheng flaen o ran sut i arfer egwyddorion y Ddeddf ac ategu cyfrifoldebau o ran DOLS 2009 fel awdurdod sy'n gyfrifol am reoli neu fel rheolwr neu oruchwyliiwr mewn timau gofal cymdeithasol. 

Deilliannau:

  • Adnabod egwyddorion sylfaenol cyfraith gyhoeddus a phwysigrwydd gwybod trothwyon eich awdurdod fel awdurdod cyhoeddus o dan y ddeddfwriaeth.
  • Adnabod pwysigrwydd agwedd hawliau dynol tuag at ddefnyddio'r Deddfau.
  • Sicrhau bod staff yn gwneud pethau'n gyfreithlon o safbwynt moesegol er mwyn diogelu a hyrwyddo hawliau dynol, ac ymarfer gwneud penderfyniadau y gellir eu hamddiffyn ar ran yr awdurdod cyhoeddus.
  • Gwerthuso arfer dda wrth asesu a chofnodi galluedd i sicrhau bod asesiadau'n canolbwyntio ar feini prawf, eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn anfarnol. 
  • Deall yr amddiffynfa gyfreithiol a ddarperir gan Adran 5 y ddeddf o ran penderfyniad, ac Adran 6 o ran penderfyniadau sy'n cynnwys cyfyngiad neu ataliaeth i sicrhau fod staff yn dilyn y cyfarwyddyd yma, yn eu gwaith beunyddiol a sicrhau y caiff hyn ei drosi'n cynllunio gofal.
  • Hyrwyddo a deall cyfrifoldebau'r Awdurdod Rheoli mewn perthynas â DOLS a phryd i atgyfeirio ar ddibenion DOLS.
  • Ystyried deinameg cymhleth galluedd anwadal a'r effaith ar wneud penderfyniadau mewn lleoliadau gofal, cymorth IMCA a phwysigrwydd prosesau apêl adran 21A sy'n cynnwys y COP.
  • Cynnwys cyfraith achos berthnasol a chyfredol a pholisi mewn perthynas â'r MCA a DOLS
  • Adnabod pwysigrwydd Trefniadau Diogelu DoL ac ystyried egwyddorion LPS.

Dyddiadau

  • 14 Mai 2024, 9.30am - 4.30pm

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau