Beth yw Atwrneiaeth, a beth yw ei buddion?
Dogfen gyfreithiol yw Pwer Atwrnai Arhosol (LPA) sy'n eich galluogi i benodi rhywun i wneud penderfyniadau am eich lles, arian neu eich eiddo. Gellir ei defnyddio os na allwch chi wneud eich penderfyniadau eich hunan.
Mae'n rhoi'r hawl i chi benodi rhywun y gallwch ymddiried ynddynt fel 'atwrnai' i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Gall atwrneiod wneud penderfyniadau drosoch os nad ydych mwyach am eu gwneud eich hun neu os nad oes gennych y gallu meddyliol i'w gwneud.
Beth yw manteision Pwer Atwrnai Arhosol?
Gall Pwer Atwrnai Arhosol eich helpu i gynllunio sut y gofalir am eich iechyd, eich lles a'ch materion ariannol. Mae'n gadael i chi drefnu ymlaen llaw:
- y penderfyniadau yr ydych am iddynt gael eu gwneud ar eich rhan os collwch y gallu i'w gwneud eich hun.
- pa bobl yr ydych am iddynt wneud y penderfyniadau hyn
- sut ydych am i'r bobl hyn wneud y penderfyniadau hyn
Mae cael Pwer Atwrnai Arhosol yn ffordd ddiogel o gadw rheolaeth dros y penderfyniadau a wneir ar eich rhan oherwydd:
- rhaid ei gofrestru gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gellir ei ddefnyddio
- rydych yn dewis rhywun i ddarparu 'tystysgrif' sy'n golygu eu bod yn cadarnhau eich bod yn deall arwyddocâd a phwrpas yr hyn yr ydych yn cytuno iddo
- gallwch ddewis pwy sy'n cael gwybod am eich Pwer Atwrnai Arhosol pan fydd yn cael ei gofrestru (fel bod ganddynt gyfle i leisio unrhyw bryderon)
- rhaid cael tystion i'ch llofnod a llofnodion yr atwrneiod a ddewiswch
Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi cymorth a chyngor defnyddiol am Bwer Atwrnai Arhosol.
Mae dau wahanol fath o Bwer Atwrnai Arhosol:
- iechyd a lles
- materion eiddo ac ariannol
Gallwch ddewis i gael y ddau neu ddim ond un.