Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Cyngor yn datgelu cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu a gwella tai cyngor

Image of new council housing

13 Mawrth 2024

Image of new council housing
Mae dros £170m o fuddsoddiad wedi'i gynllunio fel rhan o raglen bum mlynedd i adeiladu tai cyngor newydd a gwneud gwelliannau i gartrefi cyngor presennol, yn ôl Cyngor Sir Powys.

Mae'r cyngor wedi datgelu ei "Gynllun Busnes Tai - Gartref ym Mhowys", a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth, 19 Mawrth.

Byddai'r cynllun uchelgeisiol yn golygu bod y cyngor yn adeiladu mwy na 330 o dai cyngor newydd erbyn 2028-29 fel rhan o becyn buddsoddi gwerth bron i £104m.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys buddsoddiad gwerth mwy na £35m dros y pum mlynedd nesaf yng nghartrefi presennol y cyngor i sicrhau eu bod yn parhau i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i dai sy'n eiddo i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol fod mewn cyflwr da.

Mae rhaglenni gwaith eraill fel rhan o'r Cynllun Busnes Tai yn cynnwys:

  • Cydymffurfio 100 - Mwy na £9.6m i sicrhau bod pob cartref cyngor ac ased cysylltiedig yn cydymffurfio 100% â'r holl ddeddfwriaeth a rheoleiddio perthnasol a chymwys;
  • Powys Gwyrdd - Mwy na £12.5m i gynyddu effeithlonrwydd tanwydd mewn cartrefi cyngor, lleihau tlodi tanwydd, helpu i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyllid i annog a chefnogi dyfodol gwyrddach i ystadau tai cyngor;
  • Addas am Oes - Mwy na £4.3m i wneud cartrefi cyngor yn fwy addas ar gyfer anghenion pobl hŷn a'r rhai ag anghenion sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n amharu neu'n cael effaith andwyol ar eu symudedd; a
  • Carwch eich Cartref - Dros £6.8m i wella lles cymunedau drwy welliannau i gartrefi cyngor ac ystadau.

Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Powys Tecach: "Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn sicrhau bod y cyngor yn adeiladu tai cyngor o ansawdd uchel i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.

"Mae Cynllun Busnes Tai - Gartref ym Mhowys yn rhoi'r arian sydd ei angen ar waith i wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon i'n tenantiaid - gan daclo tlodi tanwydd a sicrhau bod cartrefi'r cyngor yn gwneud eu rhan i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

"Mae'r cynllun hefyd yn addo buddsoddiad parhaus yn ein cartrefi cyngor presennol i sicrhau ein bod yn parhau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

"Bydd y cynllun hwn yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys."