Bydd angen i breswylwyr Powys gael ID ffoto yn Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mis Mai
14 Mawrth 2024
Caiff preswylwyr ei hannog i wneud yn siŵr eu bod nhw'n barod i bleidleisio drwy wirio bod ffurf dderbyniol o ID ganddynt. Mae ffurfiau derbyniol o ID yn cynnwys:
- Pasbort a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Tramor Brydeinig, Gwladwriaeth AAE neu un o wledydd y Gymanwlad.
- Trwydded yrru a gyflwynwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Tramor Brydeinig, Gwladwriaeth AAE (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
- Bathodyn Glas
- Cerdyn Teithio Consesiynol 60 a Hŷn yng Nghymru
- Cerdyn Teithio Consesiynol Person Anabl yng Nghymru
Caiff pleidleiswyr ddefnyddio ID sydd wedi dod i ben os oes modd eu hadnabod o'r ffoto o hyd.
Caiff unrhyw un heb un o'r ffurfiau ID derbyniol wneud cais am ID am ddim ar-lein www.voter-authority-certificate.service.gov.uk/ neu drwy gwblhau ffurflen bapur.
Mae rhestr gyflawn o'r ID derbyniol ar gael ar wefan y Comisiynydd Etholiadol, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd a manylion am sut i wneud cais am yr ID am ddim, yma: www.electoralcommission.org.uk/voterID.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Canllawiau a Gweinyddu Etholiadol: "Bydd angen i unrhyw un sy'n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID ffoto cyn y gellir rhoi papur pleidleisio iddo/iddi. Mae'n bwysig fod pawb yn deall pa fath o ID y gall ei ddefnyddio a sut i wneud cais am ID am ddim os oes angen un arno/ arni. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gofyniad newydd a beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio, ar wefan y Comisiynydd Etholiadol."
Dywedodd Emma Palmer, Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Powys: "Gyda bod Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn digwydd ar 2 Mai 2024, mae'n bwysig fod y rheini sydd am bleidleisio yn gwneud yn siŵr fod ganddynt y ffurf dderbyniol o ID. Mae'n werth gwirio eich bod chi'n barod erbyn mis Mai nawr, er ei fod yn ymddangos yn gynnar.
"Gall preswylwyr heb un o'r ffurfiau derbyniol o ID wneud cais am ID am ddim un ai ar-lein neu drwy gwblhau ffurflen gais bapur a'i hanfon at ein tîm gwasanaethau etholiadol. Os oes angen unrhyw help arnoch chi wrth wneud cais am ID am ddim neu os ydych am wneud cais am ffurflen gais, cysylltwch â'r tîm gwasanaethau etholiadol drwy e-bostio electoral.services@powys.gov.uk neu ffonio 01597 826202."
Rhaid i unrhyw un sydd am ddweud ei ddweud yn yr etholiadau hyn fis Mai hwn, fod wedi cofrestru i bleidleisio hefyd. Dim ond pum munud mae'n ei gymryd i gofrestru ar-lein, yma: www.gov.uk/register-to-vote. Rhaid i bleidleiswyr sy'n dymuno gwneud cais i'w cyngor am ID am ddim wneud yn siŵr yn gyntaf eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.
Cafodd y gofyniad i ddangos ID ffoto yn yr orsaf bleidleisio ei gyflwyno yn gyntaf gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth DU a daeth i rym am y tro cyntaf ym mis Mai 2023.