Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfle i fusnesau lleol helpu gyda datblygiad tai cyffrous

Image of a white hard helmet, red bricks and house drawings

14 Mawrth 2024

Image of a white hard helmet, red bricks and house drawings
Mae cwmni adeiladu a fydd yn adeiladu datblygiad tai fforddiadwy newydd yn y Drenewydd yn chwilio am fusnesau lleol i helpu gyda'r prosiect.

Mae J. Harper a'i Feibion (Llanllieni) Cyf am adeiladu 32 o fflatiau un ystafell wely, ynni effeithlon, fforddiadwy ar safle hen Dŷ Robert Owen yn y dref ar ran Cyngor Sir Powys.

Mae'r cwmni bellach yn chwlio am fusnesau yn y sir sy'n ddigon profiadol ac sydd â'r gallu i'w helpu i gyflenwi'r datblygiad cyffrous hwn.

Bydd digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr yn cael ei gynnal yng Nghlwb Pêl-droed y Drenewydd ddydd Mercher 27 Mawrth, ac yno gall busnesau sy'n mynegi diddordeb siarad â chynrychiolwyr o J. Harper a'i Feibion (Llanllieni) Cyf am y pecynnau sydd ar gael fel rhan o'r datblygiad.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae'r datblygiad hwn yn y Drenewydd yn rhan o'n cynlluniau adeiladu tai uchelgeisiol, ac mae'n brosiect pwysig i'r cyngor hwn i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.

"Dyma gyfle grêt i fusnesau lleol yn y diwydiant adeiladu i weithio gyda J.Harper a'i Feibion ar y datblygiad cyffrous hwn a fydd yn cyflenwi un o'n blaenoriaethau pwysig."

I ganfod rhagor am y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr, ewch i https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/j-harper-ai-feibion-robert-owen-house-digwyddiad-cwrdd-ar-prynwyr/