Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plant

Image of Cysur logo

14 Mawrth 2024

Image of Cysur logo
Heddiw, mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad am yr Adolygiad Ymarfer Plant Cryno, CYSUR 3 2021, mewn perthynas â merch 16 oed a oedd yn byw ym Mhowys.

Cynhaliwyd yr Adolygiad yn unol â'r ddeddfwriaeth statudol a bennir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r canllawiau cysylltiedig, Cydweithio i Ddiogelu Pobl - Cyfrol 2 - Adolygiad Ymarfer Plant (Llywodraeth Cymru 2016).

Mae Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud y cyd-ddatganiad canlynol law yn llaw â chyhoeddi'r adroddiad.

'Rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu'r plentyn ac i bawb y mae'r farwolaeth drasig hon wedi effeithio arnynt.

Bu'r adolygiad yn gyfle i fyfyrio a rhannu'r gwersi a ddysgwyd ymhlith yr holl sefydliadau ac ymarferwyr partner mewn modd amlasiantaethol, ac rydym yn cydnabod ymrwymiad a chyfraniad y rheiny a gymerodd ran yn y broses adolygu.

Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn cyfrannu at ddysgu parhaus ehangach mewn perthynas â nifer o faterion allweddol a nodwyd yn yr adroddiad fel bod plant a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi'n llawn.'

Bydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goruchwylio'r broses o gyflawni cynllun gweithredu rhanbarthol, ac mae'n ymrwymedig i sicrhau y bydd gwersi'n parhau i gael eu dysgu a gwasanaethau'n parhau i gael eu gwella ar draws yr holl asiantaethau.