Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Galw am ddatganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau celfyddydol y sir

Image of a female performing, sculpting and painting

15 Mawrth 2024

Image of a female performing, sculpting and painting
Mae rhaglen ariannu sydd wedi'i chreu i gefnogi'r celfyddydau a'r sefydliadau creadigol ym Mhowys bellach yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer syniadau prosiect.

Llwyddodd Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Powys i sicrhau £675,000 o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG).

Gofynnir yn awr i sefydliadau celfyddydol ledled y sir i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb gyda'u syniadau prosiect erbyn dydd Mawrth, 26 Mawrth.

Meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Powys Mwy Llewyrchus: "Mae'r ymateb i ddyfarniad grant y cyngor gan CFfG wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac yn ystod y pythefnos diwethaf mae aelodau o dîm y celfyddydau wedi cyfarfod â nifer fawr o sefydliadau celfyddydol i drafod prosiectau posibl.

"Bydd yr arian grant yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd a gwytnwch, ac rydym am gefnogi mentrau fydd yn helpu'r rhai sy'n gweithio yn y sector diwylliannol i addasu a ffynnu yn y tymor hir.

"Mae croeso arbennig i brosiectau sy'n gallu dangos cydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb ac sydd heb fod mewn cysylltiad, i gysylltu â'r cyngor i drafod eu syniadau."

Bydd y sefydliadau hynny sy'n llwyddiannus gyda'u datganiadau o ddiddordeb yn cael eu gwahodd i wneud cais grant ffurfiol, a'r nod fydd dyfarnu cyllid ym mis Ebrill.

Rhaid i bob prosiect gael ei gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2024.

Am ragor o wybodaeth a chanllawiau am yr hyn y gall ffrwd ariannu'r celfyddydau ei gefnogi, gan gynnwys ffurflen gais mynegi diddordeb, ebostiwch arts@powys.gov.uk