Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Datgelu canlyniadau arolwg boddhad tenantiaid

Image of new council housing

15 Mawrth 2024

Image of new council housing
Mae tenantiaid tai cyngor ym Mhowys wedi dweud da iawn i wasanaethau tai wrth i ddata diweddaraf yr arolwg boddhad gael ei ddatgelu.

Aeth Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Powys ati i gomisiynu arolwg boddhad tenantiaid annibynnol yn hydref 2023 i weld pa mor fodlon oeddent gyda'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ARP Research.

Mae'r arolwg annibynnol yn dangos bod lefelau bodlonrwydd ymhlith tenantiaid yn cynyddu ym mhob maes ers i'r arolwg blaenorol gael ei gynnal - gyda lefel boddhad cyffredinol yn y gwasanaeth yn codi o 71% yn 2021 i 75%.

Canfu hefyd ymhlith tenantiaid bod:

  • 89% yn fodlon â diogelwch eu cartref
  • 84% yn credu bod eu rhent yn werth am arian
  • 80% yn fodlon â'r gwaith atgyweirio diwethaf a wnaed
  • 82% yn credu bod ein staff yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt
  • 86% yn fodlon â'u cymdogaeth fel lle i fyw

O'i gymharu â chanlyniadau 2021, mae'r cyngor wedi gweld cynnydd mewn boddhad tenantiaid yn y meysydd canlynol:

  • 73% i 77% gydag ansawdd eu cartref
  • 63% i 66% gyda gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn gyffredinol
  • 55% i 62% ein bod yn gwrando ar eu barn ac yn gweithredu arnynt.
  • 44% i 55% yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • 43% i 56% yn cael dweud eu dweud yn y gwasanaeth rheoli.
  • 73% i 74% yn ymddiried yn y gwasanaeth tai
  • 51% i 67% yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB)

Fodd bynnag, datgelodd yr arolwg ostyngiad o foddhad gan denantiaid mewn gwerth am arian o daliadau gwasanaeth, i lawr i 76% o 78%.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rydym yn gweithio'n galed i wella ein gwasanaeth tai.

"Er bod y boddhad cyffredinol yn y gwasanaeth yn dda, rydym yn gwybod y gallwn wneud yn well. Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos pa feysydd y mae angen i ni wella arnynt.

"Hoffwn ddiolch i'n tenantiaid am gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Dim ond drwy wrando ar eu barn a chydweithio y gallwn wella ein gwasanaethau."