Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Galluogi Rhieni trwy Sgiliau Coginio: Mae Grŵp Colegau NPTC a Chyngor Sir Powys yn Ymuno

Image of a person cutting vegetables

18 Mawrth 2024

Image of a person cutting vegetables
Mae rhieni ym Mhowys wrthi'n weithio'n galed yn y gegin, yn datblygu eu sgiliau coginio a hylendid bwyd ac hefyd yn magu ysbryd cymunedol a chymorth wrth geisio swyddi.

Dyma ganlyniad prosiect peilot hyfforddiant a recriwtio dan arweinyddiaeth Grŵp Colegau NPTC a Chyngor Sir Powys ar y cyd sy'n anelu at roi'r sgiliau a'r profiad i rieni i ymgeisio am swyddi gyda Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Sir Powys a cheisio gwaith yng ngheginau'r ysgolion.  Mae'r prosiect hefyd wedi helpu i wella ymgysylltiad rhwng rhieni yn y gymuned. 

O dan arweiniad Rheolwr Arlwyo Grŵp Colegau NPTC, Martin White, dysgodd rhieni o Ysgol Golwg y Cwm, Ysgol Trefonnen, ac Ysgol Uwchradd Y Drenewydd dechnegau coginio hanfodol yn ogystal ag ymchwilio i ddulliau brasgoginio ac ennill cymhwyster hylendid bwyd Lefel 1.

Mae'r fenter, sy'n rhan o'r rhaglen Ysgolion Bro ym Mhowys, wedi denu rhieni brwdfrydig ac wedi rhoi sgiliau coginio ymarferol iddynt ond hefyd wedi ysbrydoli un cyfranogwr i ymgeisio am gyfleoedd gwaith o fewn i geginau'r ysgolion, gan ddangos effaith go iawn y prosiect ar unigolion a'u llwybrau gyrfaol.

Ar ben cyfrannu at addysg coginio, bu effaith o ran magu llesiant gan y prosiect, yn ogystal ag hyrwyddo datblygiad cyfannol ymhlith cyfranogwyr ac felly'n meithrin synnwyr o ysbryd cymunedol.

Wrth drafod buddion amrywiol y prosiect, roedd Martin yn hynod o frwdfrydig am fanteision mewn perthynas â llesiant: "Roedd yr holl rieni hyn yn dod at ei gilydd. Fel arfer, byddent yn mynd â'r plant i'r ysgol, mynd adref a bod ar eu pen eu hun. Munudau ar ól dechrau siarad, roeddent yn trafod y problemau yr oeddynt yn eu hwynebu yn eu bywyd presennol ac yn y gorffennol. Roedd yn bosibl gweld synnwyr o gymuned yn dod i'r amlwg yn y grŵp."

Yn sgil ei waith ar y prosiect hwn, mae Martin wedi derbyn Gwobr Tiwtor Addysg yn y Gymuned gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Dywed y Cyng. Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Pleser yw cyhoeddi ein bod wedi ymuno â Grŵp Colegau NPTC i gyflenwi'r prosiect peilot gwych hwn.

"Dyma enghraifft o waith partneriaeth ar ei orau, sydd wedi gweld rhieni'n datblygu sgiliau hanfodol a magu profiad yn ogystal ag ennill cymhwyster pwysig. Gall hyn helpu arwain at gyfleoedd gwaith yn ein gwasanaeth arlwyo ar gyfer y sawl oedd yn bresennol, ond hefyd maent yn gallu defnyddio eu gwybodaeth newydd ym maes maeth yn eu cartrefi er budd eu teuluoedd."

Diolch i'r llwyddiant hwnnw, mae cynlluniau ar y gweill i gynnal ac ehangu'r fenter, gyda digwyddiadu tebyg yn y dyfodol yn anelu at gyrraedd cynulleidfa ehangach ar draws Powys.

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn £8,420 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I weld ffilm am y prosiect ewch i https://www.youtube.com/watch?v=XPb9n-piOuM