Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Argyfwng diogelwch ar y ffyrdd

Image of a road in Powys

19 Mawrth 2024

Image of a road in Powys
Mae argyfwng yn wynebu diogelwch ar y ffyrdd ym Mhowys, ac os na wneir rhywbeth am hyn, bydd yn parhau i gael effaith ar fywydau trigolion ac ymwelwyr, yn ogystal â'r economi lleol, yn ôl grŵp diogelwch.

Roedd y Grŵp Strategol ar gyfer Diogelwch ar y Ffyrdd, a sefydlwyd y llynedd gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys, yn gyfrifol am adnabod opsiynau a mentrau gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran Cyngor Sir Powys, Heddlu Dyfed-Powys, Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys.

Caiff darganfyddiadau ac argymhellion y grŵp eu rhannu gyda Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd.

Yn ôl y Cyng. Richard Church, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Diogel, a'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, y ddau ohonynt yn aelodau o'r grŵp diogelwch: "Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae bron 100 o bobl wedi marw ar ein ffyrdd ym Mhowys.

"Mae cannoedd o fywydau eraill wedi cael eu niweidio, nid yn unig oherwydd anafiadau difrifol, ond hefyd oherwydd colled, trawma a phrofedigaeth, sydd wedi arwain at gost enfawr ar gyfer ein cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus, a dyna'r rheswm dros alw hyn yn argyfwng.

"Nid argyfwng newydd yw hwn; mae wedi bod gyda ni ers blynyddoedd, ac er gwaethaf ymdrechion yr holl wasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd i wella dyluniad ein ffyrdd, i addysgu pobl sy'n defnyddio'r ffyrdd, ac i orfodi mesurau i atal gyrru peryglus, mae'r argyfwng yn parhau.

"Gwyddom fod gennym broblem ddifrifol, felly rydym wedi dod at ein gilydd gyda'n partneriaid yn yr Heddlu, swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rhaglen Gan Bwyll ac Asiantaeth y Cefnffyrdd, i ystyried yr hyn sydd o'i le ym Mhowys a'r hyn y gallwn ei wneud i atal colli bywydau ar ein ffyrdd."