Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwneud cais a phleidleisio drwy bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

entering a vote

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am bleidlais bost yw arlein.

Gallwch nawr gwblhau eich cais gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post

Os na allwch gofrestru arlein, gallwch lawrlwytho cais o Pleidleisio drwy'r post | Y Comisiwn Etholiadol, ei gwblhau a'i ddychwelyd atom gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

I gofrestru ar gyfer pleidlais bost, byddwch angen

  • Y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio
  • Dyddiad yr etholiad neu'r refferendwm nesaf (os ydych chi eisiau pleidlais bost ar gyfer un etholiad penodol)
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Ffotograff o'ch llofnod wedi'i ysgrifennu â llaw.(ar-lein yn unig)

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau pleidlais bost newydd neu newid neu ganslo cais pleidlais bost bresennol ar gyfer pob etholiad yw 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. 

Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un o'r etholiadau penodol hyn, am gyfnod penodol o amser neu am uchafswm o hyd at dair blynedd.  Bydd angen i chi ail-ymgeisio erbyn y trydydd 31 Ionawr ar ôl i'ch cais gael ei ganiatáu. Bydd hysbysiad yn eich atgoffa o'r angen i ailymgeisio yn cael ei anfon cyn y dyddiad hwnnw.

Cwblhau eich pleidlais bost

Pan fyddwch yn derbyn eich pecyn post, bydd yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen arnoch am sut i gwblhau ac anfon eich pleidlais bost.  Bydd angen i chi farcio'ch papur pleidleisio yn y ffordd arferol, a rhaid i chi hefyd gwblhau'r datganiad pleidleisio drwy'r post gyda'ch dyddiad geni a'ch llofnod (oni bai eich bod wedi cael eich hepgor o hyn). Heb hyn, mae eich pleidlais yn annilys.

Mae'n rhaid i ni dderbyn eich pecyn post wedi'i gwblhau ar gyfer unrhyw etholiad neu refferendwm erbyn 10yh ar y diwrnod pleidleisio.

  • Cwblhewch eich pleidlais drwy'r post mewn preifatrwydd a pheidiwch â gadael i unrhyw un arall ei gweld
  • Peidiwch â gadael i unrhyw un arall bleidleisio ar eich rhan
  • Peidiwch â rhoi eich papur pleidleisio na'ch pecyn post i unrhyw un arall
  • Seliwch bob amlen eich hun
  • Ewch â'ch pleidlais bost i'r blwch post eich hun. Os nad yw hyn yn bosibl, rhowch ef i rywun rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i'w bostio ar eich rhan.
  • Gwiriwch am flwch post blaenoriaeth yn agos at ble rydych chi'n byw. Mae gan y blychau post hyn amseroedd casglu cynnar a hwyr ac mae llawer yn cael eu gwagio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul
  • Os bydd rhywun yn ceisio eich helpu yn erbyn eich ewyllys, neu'n eich gorfodi i roi eich pleidlais bost iddynt, dylech gysylltu â'r heddlu
  • Efallai eich bod wedi clywed am y gofyniad i fynd â phrawf adnabod ffotograffig i'r orsaf bleidleisio. Nid yw hyn yn effeithio ar bleidleisiau post.

Dychwelyd eich pleidlais bost wedi'i chwblhau

Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o ddychwelyd eich pecyn post wedi'i gwblhau yw drwy ei bostio mewn blwch post Post Brenhinol gan ddefnyddio'r amlen B a dalwyd ymlaen llaw.

Gallwch yn dal gyflwyno eich pleidlais bost i orsaf bleidleisio neu swyddfa'r Gwasanaethau Etholiadol cyn 10yh ar y diwrnod pleidleisio ond byddwch yn ymwybodol bod y rheolau ar drin pleidleisiau post bellach wedi newid. Os byddwch yn penderfynu cyflwyno eich pleidlais bost wedi'i chwblhau, mae angen i chi gwblhau ffurflen dychwelyd pleidlais drwy'r post. Os na chaiff y ffurflen hon ei chwblhau o gwbl neu heb ei chwblhau'n gywir, bydd eich pleidlais bost yn cael ei gwrthod ac ni chaiff ei chyfrif yn yr etholiad.

Gall staff sydd wedi'u hawdurdodi i dderbyn pleidleisiau post mewn gorsafoedd pleidleisio a'ch swyddfa Gwasanaethau Etholiadol eich helpu i lenwi'r ffurflen hon.

Pwy sy'n gallu cyflwyno pleidleisiau post

Dim ond os byddwch yn llenwi ffurflen dychwelyd pleidlais drwy'r post y gallwch gyflwyno eich pleidlais ar y diwrnod. Mae hyn bellach yn gyfraith a bydd unrhyw bleidleisiau post a adawyd yn yr orsaf bleidleisio neu swyddfeydd y cyngor heb y ffurflen wedi'i chwblhau yn cael eu gwrthod.

  • Gall unigolyn gyflwyno ei bleidlais bost ei hun yn ogystal â phleidleisiau post ar gyfer hyd at bum person arall.
  • Gall ymgyrchwyr gwleidyddol gyflwyno'u pleidlais bost eu hunain a phleidleisiau post ar gyfer hyd at bum person arall sydd naill ai'n berthynas agos, neu'n rhywun y maen nhw, neu'r sefydliad sy'n eu cyflogi neu'n eu llogi, yn darparu gofal rheolaidd amdanynt. (Perthnasau agos yw priod yr unigolyn, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres. Mae dau berson sy'n byw gyda'i gilydd fel pe baent yn gwpl priod neu'n bartneriaid sifil yn cael eu trin fel hynny).
  • Bydd unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir sy'n perthyn i bobl eraill ac eithrio'r rhai a nodir uchod yn cael eu gwrthod.

Pwy sydd ddim yn gallu cyflwyno pleidleisiau post

  • Ni all ymgyrchwyr gwleidyddol ymdrin â phleidleisiau post ar gyfer etholwyr eraill nad ydynt yn berthnasau agos neu'n rhywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer.  (Perthnasau agos yw priod yr unigolyn, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres. Mae dau berson sy'n byw gyda'i gilydd fel pe baent yn gwpl priod neu'n bartneriaid sifil yn cael eu trin fel hynny).
  • Unigolion sydd o dan 18 oed
  • Unigolion sydd eisoes wedi rhoi'r nifer uchaf o bleidleisiau post a ganiateir ar gyfer yr etholiad hwnnw

Mae'n drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol ymdrin â phleidleisiau post nad ydynt yn rhai eu hunain, rhai perthnasau agos neu rywun y maent yn darparu gofal ar eu cyfer. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn hysbysu'r heddlu lle mae'n amau bod trosedd wedi'i chyflawni.

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma