Gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Sir a Chymuned
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar bapur (ni allwch wneud cais arlein).
Gallwch lawrlwytho'r ffurflen hon o Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post | Y Comisiwn Etholiadol neu ofyn am un o'r ffurflenni hyn o'r swyddfa etholiadau. Nid oes angen dilysiad ID ar gyfer y ddau fath yma o etholiad.
Gall eich cais ar gyfer etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol eich diogelu am gyfnod amhenodol ar yr amod eich bod yn parhau i adnewyddu'ch llofnod bob pum mlynedd. Bydd cais i adnewyddu eich llofnod yn cael ei anfon atoch gan y swyddfa etholiadau ar yr adeg ofynnol.
Cwblhau eich pleidlais bost
Pan fyddwch yn derbyn eich pecyn post, bydd yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen arnoch am sut i gwblhau ac anfon eich pleidlais bost. Bydd angen i chi farcio'ch papur pleidleisio yn y ffordd arferol, a rhaid i chi hefyd gwblhau'r datganiad pleidleisio drwy'r post gyda'ch dyddiad geni a'ch llofnod (oni bai eich bod wedi cael eich hepgor o hyn). Heb hyn, mae eich pleidlais yn annilys.
Mae'n rhaid i ni dderbyn eich pecyn post wedi'i gwblhau ar gyfer unrhyw etholiad neu refferendwm erbyn 10yh ar y diwrnod pleidleisio.
- Cwblhewch eich pleidlais drwy'r post mewn preifatrwydd a pheidiwch â gadael i unrhyw un arall ei gweld
- Peidiwch â gadael i unrhyw un arall bleidleisio ar eich rhan
- Peidiwch â rhoi eich papur pleidleisio na'ch pecyn post i unrhyw un arall
- Seliwch bob amlen eich hun
- Ewch â'ch pleidlais bost i'r blwch post eich hun. Os nad yw hyn yn bosibl, rhowch ef i rywun rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i'w bostio ar eich rhan.
- Gwiriwch am flwch post blaenoriaeth yn agos at ble rydych chi'n byw. Mae gan y blychau post hyn amseroedd casglu cynnar a hwyr ac mae llawer yn cael eu gwagio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul
- Os bydd rhywun yn ceisio eich helpu yn erbyn eich ewyllys, neu'n eich gorfodi i roi eich pleidlais bost iddynt, dylech gysylltu â'r heddlu
Dychwelwch eich pleidlais bost wedi'i chwblhau
Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o ddychwelyd eich pecyn post wedi'i gwblhau yw drwy ei bostio mewn blwch post Post Brenhinol gan ddefnyddio'r amlen B a dalwyd ymlaen llaw.
Gallwch yn dal gyflwyno eich pleidlais bost i orsaf bleidleisio neu swyddfa'r Gwasanaethau Etholiadol cyn 10yh ar y diwrnod pleidleisio.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma