Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Deddf Etholiadau 2022 - Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post

Typewriter

Mae'r Ddeddf Etholiadau yn caniatáu i etholwyr wneud cais arlein am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol).

Bydd etholwyr yn cael gwiriad adnabod gyda chofnodion DWP ar gyfer yr etholiadau hyn fel rhan o'r broses ymgeisio.  Bydd eich cais ar gyfer y ddau fath yma o etholiad yn ddilys am gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf. Bydd angen i chi ail-ymgeisio erbyn y trydydd 31 Ionawr ar ôl i'ch cais gael ei ganiatáu. Bydd hysbysiad yn eich atgoffa o'r angen i ailymgeisio yn cael ei anfon cyn y dyddiad hwnnw.

Dechreuodd y broses ar gyfer proses ymgeisio bob tair blynedd ar gyfer pleidleiswyr post sy'n gwneud cais am Etholiadau Seneddol a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 31 Hydref 2023. Ni fydd angen i etholwyr sydd â phleidlais drwy'r post yn ei lle ers cyn i'r newidiadau ddod i rym, wneud unrhyw beth tan 31 Ionawr 2026, ond bydd y Tîm Etholiadau mewn cysylltiad â chi cyn y dyddiad hwn ynghylch y trefniadau trosiannol.

Mewn etholiad Seneddol neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bydd terfyn hefyd ar faint o bleidleisiau post y gall etholwr eu cyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu adeilad cyngor (cyfeiriad ar amlen B o'ch pecyn post). Byddwch yn cael cymryd eich pleidlais eich hun, a hyd at bump arall.

Yn y mathau hyn o etholiadau, bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahardd rhag ymdrin â phecynnau pleidleisio drwy'r post ar ran etholwyr oni bai eu bod yn cyflwyno eu pleidlais eu hunain, perthynas agos neu rywun y maen nhw, neu'r sefydliad sy'n eu cyflogi neu'n eu llogi, yn darparu gofal rheolaidd amdanynt.

Bydd y rheolau ynglŷn â chyfrinachedd a phwy sy'n gallu ymdrin â phleidleisiau post ar gyfer y mathau uchod o etholiadau yn berthnasol ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024.

Teitl yn dilyn dolen: Am ragor o wybodaeth am newidiadau i bleidleisio drwy'r posthttps://www.electoralcommission.org.uk/cy/newyddion-a-safbwyntiau/deddf-etholiadau/newidiadau-i-drefniadau-pleidleisio-drwyr-post