Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Digwyddiad llwyddiannus ar ddatgarboneiddio yn helpu busnesau i baratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy

Image of interactive workshops at the Sustainable business solutions in Mid Wales event

20 Mawrth 2024

Image of interactive workshops at the Sustainable business solutions in Mid Wales event
Roedd Tyfu Canolbarth Cymru ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, wedi cynnal digwyddiad ar ddatgarboneiddio ar ddydd Llun, 11 Mawrth 2024 yn Fferm Bargoed gan dynnu ynghyd arweinwyr, arbenigwyr a busnesau o'r sector a oedd yn awyddus i edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni.

Roedd y digwyddiad Atebion busnes Cynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru: Lleihau allyriadau a chostau yn cynnwys trafodaethau difyr gan banel, gweithdai rhyngweithiol a chyflwyniadau gan Fusnes Cymru, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a'r rhwydweithiau ynni. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i ddod i ddeall mwy am ddatgarboneiddio ac am strategaethau ymarferol ar gyfer datgarboneiddio eu gweithrediadau a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Ar y cyd, dywedodd Cynghorydd Sir Ceredigion Keith Henson, Aelod o'r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, a Chynghorydd Sir Powys Jackie Charlton, Aelod o'r Cabinet dros Bowys Gwyrddach: "Rydym wrth ein bodd o weld y croeso y mae busnesau yn ei roi ar draws y sectorau i ddatgarboneiddio fel elfen sylfaenol o'u gwaith.

"Roedd y digwyddiad hwn yn llwyfan i rannu gwybodaeth, arddangos arloesedd a chychwyn cydweithio er mwyn sbarduno'r newid tuag at economi carbon isel.

"Roedd yn wych gweld busnesau Canolbarth Cymru hefyd yn elwa o'r cymorth eang ac amrywiol sydd ar gael i ddeall sut y gall datgarboneiddio eu busnes helpu i hyrwyddo Canolbarth Cymru fel lle i wneud busnes gwyrdd gyda"

Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd â chenhadaeth barhaus Tyfu Canolbarth Cymru a'r ddau awdurdod lleol, sef galluogi busnesau i fabwysiadu arferion cynaliadwy a lleihau eu hôl-troed carbon. Drwy siarad, cydweithio ac arloesi mae Tyfu Canolbarth Cymru yn ceisio bod yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn y rhanbarth.

Mae Fferm Bargoed wedi ymrwymo i fod yn fusnes carbon niwtral. Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth Geraint Thomas, perchennog Fferm Bargoed, ddarparu taith, gan ddangos yr arferion cynaliadwyedd maen nhw'n eu dilyn ar hyn o bryd. Meddai: "Roedd y digwyddiad datgarboneiddio yn gyfle gwych i ni rannu arferion cyfredol, ein gwybodaeth a'n ffyrdd yr ydym wedi mynd i'r afael â heriau fel y gallem helpu i ddangos i fusnesau eraill sut i ddechrau neu gynyddu eu taith cynaliadwyedd. Gadewch i ni barhau â'r momentwm hwn, gobeithio mai dyma'r cyntaf o lawer o gyfleoedd a fydd yn dod â busnes gwyrdd yng Nghanolbarth Cymru ar flaen y gad o ran sgwrsio."

Diolch yn fawr i'r cyrff a roddodd nawdd i'r digwyddiad, sef Dosbarthwr Trydan y Grid Cenedlaethol (NGED), Trosglwyddwr Trydan y Grid Cenedlaethol (NGET), Rhwydwaith Ynni Scottish Power (SPEN) a Wales and West Utilities (WWU).

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Tyfu Canolbarth Cymru a digwyddiadau cynaliadwy yn y dyfodol, ewch i https://growingwelsh.powys1-prd.gosshosted.com/Ynni+SeroNet neu cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr misol sy'n cynnwys y newyddion diweddaraf am Tyfu Canolbarth Cymru, a hynny drwy e-bostio tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk